Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Etholiad Cyffredinol 7 Mai: gofalwch eich bod yn gallu pleidleisio

Published: 19/03/2015

Mae ymgyrch hysbysebu ar y gweill i annog pleidleiswyr i gofrestru cyn yr Etholiad Cyffredinol. Mae Cyngor Sir y Fflint yn annog trigolion lleol i edrych ar wefan www.gov.uk/register-to-vote Ddydd Iau, 7 Mai bydd pleidleiswyr yn mynd i’r gorsafoedd i ethol Aelodau Seneddol ar gyfer etholaethau seneddol Delyn ac Alyn a Glannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint. Ar ddechrau’r wythnos, lansiodd y Comisiwn Etholiadol ei ymgyrch gofrestru genedlaethol i atgoffa pobl i gofrestru i bleidleisio erbyn 20 Ebrill. Gweler yr hysbyseb teledu yma. Meddai Colin Everett, Swyddog Canlyniadau, “Dylai unrhyw un sydd heb gofrestru i bleidleisio wneud hynny cyn gynted ag sy’n bosibl fel nad ydynt yn colli’r cyfle i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol sydd ar y gorwel. Ni allwch bleidleisio os nad ydych wedi cofrestru erbyn 20 Ebrill. Rydym yn annog y rheiny sydd heb gofrestru i wneud hynny ar-lein ar www.gov.uk/register-to-vote. Bydd ond yn cymryd ychydig funudau ac os ydych yn ansicr p’un a ydych wedi cofrestru, gallwch gysylltu â’n Swyddfa Etholiadol ar 01352 702412 Gwybodaeth gefndirol Mewn gwaith ymchwil diweddar a gynhaliwyd gan YouGov, gwelodd y Comisiwn Etholiadol: · fod 21% o bobl sy’n rhentu’n breifat yn meddwl eu bod wedi cofrestru i bleidleisio fel mater o drefn am eu bod yn talu’r dreth gyngor · bod 40% o’r rheiny a holwyd yn meddwl nad oes modd cofrestru i bleidleisio ar-lein yn Lloegr, yr Alban a Chymru. · nad yw 69% o bobl yn gwybod pryd mae’r dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio. Mae 13% yn meddwl ei bod yn rhy hwyr iddynt gofrestru. Pan roddwyd dewis o bump opsiwn iddynt, dim ond 32% a lwyddodd i ateb mai 20 Ebrill yw’r dyddiad cau.