Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn arwain y ffordd at gynorthwyo entrepreneuriaid

Published: 25/03/2015

Mae Rhwydwaith Entrepreneuriaeth Busnes Sir y Fflint am gynnal dathliad i nodi llwyddiant ei ddau Glwb Menter yn Sir y Fflint a Wrecsam. Sefydlwyd y Rhwydwaith ym mis Tachwedd 2012 gan Gymunedau’n Gyntaf a gwr busnes o Sir y Fflint, Askar Sheibani, Prif Swyddog Gweithredol cwmni Comtek Network Systems UK Ltd, ac mae’n cael ei reoli gan dîm Cymunedau’n Gyntaf Dwyrain Sir y Fflint. Mae’r Rhwydwaith yn cynnwys rhanddeiliaid o Gyngor Sir y Fflint, Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr o fusnesau lleol a’r gymuned, sy’n dod at ei gilydd i hyrwyddo entrepreneuriaeth. Ers iddo gael ei sefydlu, mae’r Rhwydwaith wedi cynnal cyfres o ddigwyddiadau ‘Dragon’s Den’ ac mae dros 100 o bobl wedi elwa o’r rhaglen. Cynhelir y digwyddiad Dragon’s Den nesaf ddydd Gwener 27 Mawrth, rhwng 1pm a 3pm yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Hightown yn Wrecsam. Gwahoddir entrepreneuriaid newydd i fynychu a cheisio gwerthu eu syniadau i arweinwyr busnes a chael adborth gonest a chyfle i gael cymorth a mentora. Meddai Askar Sheibani, cadeirydd fforwm Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a Phrif Swyddog Gweithredol a sefydlydd y cwmni trwsio a chymorth telathrebu, Comtek: “Mae rhaglen Dragon’s Den Sir y Fflint wedi bod yn llwyddiant ysgubol ers iddo gael ei lansio yn 2013. Rydym wedi cael ymholiadau o bob cwr o’r DU i ganfod sut mae’r rhaglen yn gweithio a sut mae’n cael ei gydgysylltu gan dîm Cymunedau’n Gyntaf Sir y Fflint. Rydym hefyd wedi gweld nifer o entrepreneuriaid sefydledig yn awyddus i gymryd rhan yn y Clybiau Menter i ddarparu cyngor a chymorth parhaus i’n hentrepreneuriaid newydd. Yn wir, ni fyddai’r Clybiau Menter wedi bod yn bosibl heb gymorth busnesau lleol, sy’n helpu’n wirfoddol ac sy’n un o brif gynhwysion llwyddiant y rhaglen. Heb eu cymorth a’u mentora, ni fyddem yn cael ein hadnabod fel glasbrint ar gyfer llwyddiant gan ranbarthau eraill yn y DU, ac rydym yn annog eraill i gydio yn eu doniau lleol i yrru llwyddiant busnes ymlaen a helpu i gadw eu heconomïau lleol ar y wyneb.” Meddai Dave Fildes o DFS4 Ltd sef un o’r mentoriaid: “Mae’n bwysig i mi roi rhywbeth yn ôl i gymuned gogledd Cymru. Rydw i’n mentora tri neu bedwar o bobl drwy’r Clwb Menter yn ogystal â darparu sgyrsiau. Rwyf wedi datblygu sawl busnes a thrawsnewid ambell un; fy mhrif sgiliau yw gwerthiant, trefnu gwerthiant a hyfforddiant gwerthiant. Gwn sut beth yw nosweithiau digwsg ac yn aml y cyfan sydd ei angen ar bobl yw rhywun i siarad â nhw i ddod i’w penderfyniadau eu hunain.” Mae Neil Davies wedi elwa o’r Rhwydwaith a’r Clwb Menter. Mae wedi sefydlu cwmni o’r enw Active Adventure North Wales, sy’n darparu cyrsiau rheoli busnes drwy weithgareddau awyr agored. Meddai: “Mae’r Rhwydwaith a’r Clwb Menter wedi bod o fudd enfawr i mi. Mae’r darlithoedd am ddim ar ddydd Gwener wedi bod yn wych, yn arbennig ar werthiant, marchnata a chyfryngau cymdeithasol. Mae wedi bod yn siwrnai arbennig ac mae’n braf cael rhywun i droi atyn nhw am gyngor.” Mae Thomas Kirkpatrick o Seland Newydd yn berchen ar fythynnod hunanarlwyo moethus yn nyffryn Clwyd - sef Bythynnod Cae Gwyn: “Cyrhaeddais Sir y Fflint ddwy flynedd yn ôl gyda fy ngwraig sy’n wreiddiol o’r ardal hon. Dechreuom chwilio am eiddo gwledig a daethom o hyd i adeilad Sioraidd a oedd wedi’i adael ers blynyddoedd - gydag adeiladau allanol hyfryd a bwthyn. Rwyf wedi bod yn aelod o’r clwb menter ers blwyddyn ac mae wedi bod yn brofiad ysbrydoledig gweld nifer yr entrepreneuriaid ifanc - mae pobl yn mynd amdani ac yn rhoi cynnig arni. Mae wedi bod yn ysbrydoledig dros ben!” Meddai’r Cynghorydd Derek Butler, Aelod o’r Cabinet dros Ddatblygiad Economaidd yng Nghyngor Sir y Fflint: “Unwaith eto mae Sir y Fflint ar flaen y gad ym maes arloesed gyda’r Rhwydwaith hwn sy’n unigryw - nid oes unrhyw beth tebyg yn cael ei ddarparu yng Nghymru, y DU nac Ewrop. Diolchaf i Gymunedau’n Gyntaf ac i Askar Sheibani am arwain y fenter ardderchog hon.” I gymryd rhan yn y digwyddiad Dragon’s Den nesaf ddydd Gwener 27 Mawrth o 1pm tan 3pm yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Hightown yn Wrecsam, cysylltwch â Lynn Williams drwy e-bost: lynn.williams@cambria.ac.uk Os na allwch fynychu digwyddiad Wrecsam, cynhelir Dragon’s Den Sir y Fflint ddydd Gwener 15 Mai yng Ngholeg Cambria, Campws Glannau Dyfrdwy o 10am tan 2pm. Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad yn Sir y Fflint cysylltwch â Beverly Moseley 01244 846090. Bydd y dathliad i nodi llwyddiant Clybiau Menter Sir y Fflint a Wrecsam ac i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan a hyrwyddo ei achos - ei aelodau, Dreigiau, sefydliadau a chefnogwyr - ddydd Gwener 19 Mehefin yng Nghampws Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria. Lluniau 4259: yn y llun mae aelodau o Rwydwaith Entrepreneuriaeth Busnes Sir y Fflint. 4272a: o’r chwith i’r dde mae Beverly Moseley (Cymunedau’n Gyntaf), Neil Davies, Thomas Kirkpatrick, Askar Sheibani a’r Cynghorydd Derek Butler.