Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ceisiadau am gyllid priffyrdd

Published: 19/03/2015

Yn ddiweddar mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyflwyno ceisiadau i Lywodraeth Cymru am gyllid drwy amryw o fentrau i fynd i’r afael â safleoedd damweiniau ffyrdd, darparu prosiectau seilwaith priffyrdd cynaliadwy a mynediad diogel i ysgolion a chymunedau. Mae’r ceisiadau’n ymwneud ag amrywiaeth eang o gynlluniau gan gynnwys gwella cyffordd Cylchfan Asda / Station Rd yn Queensferry a darparu llwybr troed ar Bryn Road gan gysylltu Bryn y Baal â Ffordd Alltami, a fydd yn darparu cyswllt i gerddwyr rhwng y ddwy gymuned leol. Meddai’r Dirprwy Arweinydd ac Aelod o’r Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Bernie Attridge: “Mae pob un o’r cynlluniau wedi’u nodi a’u blaenoriaethu i sicrhau ein bod yn gwneud ceisiadau ar gyfer y meysydd mwyaf anghenus yn y Sir. Mae cynllun llwybr troed Bryn Road wedi’i nodi fel blaenoriaeth diogelwch ar y ffyrdd yng Nghyngor Sir y Fflint ac mae wedi cael cefnogaeth lawn gan yr ysgol leol sydd â disgyblion yn defnyddio’r llwybr. Rwy’n gwbl gefnogol o’r cynnig hwn a’r cais i Lywodraeth Cymru am gyllid”.