Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Penwythnos Tenis Mawr Prydain 2014
Published: 12/05/2014
Bydd Sir y Fflint yn gweld llawer o gyffro tenis yr haf hwn gan ddechrau gyda
Phenwythnos Tenis Mawr Prydain ar ddydd Sadwrn 17 Mai a dydd Sul 18 Mai pan
fydd tennis am ddim ledled y Sir.
Bydd lleoliadau’n cynnig amrywiaeth o sesiynau hyfforddi a hamdden am ddim i
annog oedolion a phlant, i afael mewn raced a rhoi cynnig arni ar y cwrt. Bydd
y penwythnos yn dechrau ar ddydd Sadwrn 17 Mai gyda Chlwb Tenis yr Wyddgrug a
Chanolfan Hamdden Bwcle yn cynnal sesiynau rhwng 10yb ac 1yp a Chanolfan
Hamdden Treffynnon yn cynnal sesiynau rhwng 2yp a 5yp.
Ar ddydd Sul 18 Mai, bydd Clwb Tenis Penyffordd yn cynnal sesiynau rhwng 2p a
5yp.
Bwriedir trefnu digwyddiadau pellach dros yr haf a bydd rhagor o fanylion ar
gael dros y misoedd nesaf.
Dywedodd Matt Hayes o Datblygu Chwaraeon Sir y Fflint: “Maer fenter yn cael ei
chefnogi gan y Gymdeithas Tenis Lawnt (LTA) ac maen gyfle gwych i bobl o bob
oed ddod yn ôl i chwarae tenis neu i roi cynnig ar y gamp am y tro cyntaf.
Maen ffordd wych o gadwn heini a chael hwyl a gobeithio drwy gofrestru ar
gyfer y sesiynau y bydd pobl yn sylweddoli fod y gamp yn haws ac yn rhatach iw
chwarae na buasech yn tybio.”
Dywedodd Prif Weithredwr yr LTA, Michael Downey: “Rydym yn edrych ymlaen yn
fawr i gael dod â Phenwythnos Tenis Mawr Prydain yn ôl i gyrtiau tenis ledled y
wlad yn ystod yr haf. Mae tenis ym Mhrydain wedi gweld rhai canlyniadau gwych
yn ystod y 12 mis diwethaf gydar tîm Cwpan Davis yn cyrraedd chwarteri Grwp
Byd Cwpan Davis ac Andy Murray yn ennill Wimbledon llynedd.
“Maen ymwneud â manteisio ar y diddordeb yn y gamp, fel bod pawb yn eu
cartrefi yn cael eu hysbrydoli gan yr hyn mae ein chwaraewyr yn ei wneud ar y
cwrt, a’n bod wedyn yn cynnig cyfle i fynd ar y cwrt heb i gost fod yn broblem.
Mae gennym leoliadau ar hyd y wlad ac mae yna rywbeth at ddant pawb, beth
bynnag fo’u gallu. Yn fwy na dim mae’r penwythnosau hyn yn mynd i fod yn llawer
o hwyl, y gall ffrindiau a theuluoedd eu mwynhau gydai gilydd.”
Mae Sir y Fflint wedi bod yn gweithion galed i hyrwyddo tenis a bydd y
penwythnos hefyd yn gweld Cyngor Sir y Fflint yn derbyn gwobr arbennig gan
Tenis Cymru am gyfraniad yr awdurdod lleol i ddatblygiad tenis.
Gall unrhyw un syn dymuno cofrestru ar gyfer sesiwn am ddim archebu lle drwy
fynd i
www.greatbritishtennisweekend.com neu drwy droi i fyny ar y diwrnod. Bydd y
sesiynau sydd ar gael yn cynnwys tenis cardio, hyfforddiant i oedolion, mini
tenis, amser teulu a chwarae rhydd.