Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Archifdy Sir y Fflint yn ennill achrediad cenedlaethol

Published: 26/03/2015

Archifdy Sir y Fflint yw’r gwasanaeth archifau cyntaf yng ngogledd Cymru i ennill Achrediad Gwasanaeth Archifau. Mae Gwasanaeth Archifau Achrededig yn sicrhau fod ein treftadaeth archifol yn cael ei chasglu, ei dargadw a’i bod yn hygyrch yn y tymor hir. Mae’r achrediad yn safon ansawdd newydd yn y DU sy’n cydnabod perfformiad da ym mhob maes o ddarpariaeth gwasanaeth archifol. Mae cyflawni statws achrededig yn dangos fod Archifdy Sir y Fflint wedi cyrraedd safonau cenedlaethol a ddiffinwyd yn glir yn ymwneud â rheoli a darparu adnoddau; gofalu am ei gasgliadau unigryw a’r hyn sydd gan y gwasanaeth i’w gynnig i ystod gyfan o ddefnyddwyr. Mae’r Archifdy wedi darparu gwasanaeth archifau i Sir y Fflint ers y 1950au ac nid yn unig y mae’n cadw casgliadau’r Cyngor Sir ond hefyd cofnodion busnesau lleol, eglwysi, ysgolion, ystadau a llawer mwy. Roedd yn un o’r archifdai cynharaf i gael ei sefydlu yng Nghymru ac mae wedi bod yn nodedig erioed am ansawdd ei wasanaeth. Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, Aelod o’r Cabinet dros Addysg: “Rydym yn falch dros ben mai ein gwasanaeth archifau ni yw’r cyntaf yng ngogledd Cymru i ennill statws achrededig. Mewn cyfnod o newid mawr mewn llywodraeth leol rydym yn falch iawn o allu sefyll ar ein traed a chael ein cyfrif am gynnal ansawdd ac ymrwymiad i’r gwasanaeth a gynigwn i Sir y Fflint ac i genedlaethau’r dyfodol”. Nododd aseswyr yr Achrediad Gwasanaeth Archifau fod perfformiad Archifdy Sir y fflint yn dangos darpariaeth gref ym mhob maes gwasanaeth. Canmolwyd yn arbennig: ymrwymiad y gwasanaeth i gyflawni a dargadw’r Achrediad yn y tymor hir; y cynlluniau trylwyr a’r defnydd effeithiol a wneir o wirfoddolwyr i fwydo i mewn i ddatblygiad y gwasanaeth a chefndir nodedig y gwasanaeth mewn cadwraeth, cynorthwyo hyfforddiant a datblygiad proffesiynol ehangach a gwneud gwelliannau rhanbarthol. Ceir manylion yr Archifdy ar wefan y Cyngor sef www.siryfflint.gov.uk/archifau Nodiadau i olygyddion: Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Claire Harrington, Prif Archifydd, 01244 532414 neu anfonwch e-bost at Claire.Harrington@flintshire.gov.uk Am fwy o wybodaeth am Achrediad y Gwasanaeth Archifau edrychwch ar wefan: http://www.nationalarchives.gov.uk/archives-sector/archive-service-accreditation .htm