Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Canslo arwerthiant cist car

Published: 25/03/2015

Ni chaiff yr arwerthiant cist car arferol ei gynnal ym maes parcio Love Lane ddydd Sul 5 Ebrill er parch at Sul y Pasg. Bydd yr arwerthiant cist car yn cael ei gynnal eto’r dydd Sul wedyn. Y tâl yw £8.75 am gar / £12.75 am faniau rhwng mis Ebrill a mis Hydref. Nid oes angen neilltuo lle, dim ond dod draw ar y diwrnod. Mae’r Farchnad yn y Fflint wedi’i chanslo ddydd Gwener y Groglith, 3 Ebrill 2015 hefyd. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 07711438112.