Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Creu dôl draddodiadol

Published: 23/07/2019

Yn ddiweddar, bu i staff a gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru weithio gyda Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint i reoli ein dôl y coroni yn defnyddio dulliau traddodiadol. 

Ers 2012 mae’r Gwasanaeth Cefn Gwlad wedi gweithio’n agos ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i greu dôl y coroni, dim ond un o dair yn y sir, yn Neuadd Y Sir. Roedd y gwaith yn cynnwys symud gwair gwyrdd o ddôl draddodiadol a’i daenu dros safle’r ddôl. Bob blwyddyn caiff yr ardal ei thorri’n ddiweddarach yn ystod y flwyddyn yn defnyddio technegau pladuro traddodiadol fel rhan o’r gweithdai i wirfoddolwyr a gynhelir gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Caiff y toriadau eu casglu ar gyfer gwair neu i wneud gwrtaith. Mae’r canlyniadau wedi gwneud newid cadarnhaol i fioamrywiaeth gyda chynnydd o ran blodau gwyllt o darddiad lleol megis y gribell felen a’r bengaled. Bu i waith rheoli diweddar ddatgelu bod yr ardal yn cael ei defnyddio gan famaliaid bychain, amffibiaid a nifer o rywogaethau di asgwrn cefn, gwelliant clir o’i gymharu â’r glaswellt wedi’i dorri a oedd yn bresennol cyn sefydlu’r ddôl. 

Er mwyn sefydlu a chynnal blodau gwyllt brodorol sydd fwyaf o fantais i fywyd gwyllt a gwerth gweledol i bobl, mae angen rheolaeth hirdymor gywir. Mae hyn yn golygu torri a chasglu’r gwair yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Mae hefyd yn bwysig sicrhau bod amrywiaeth o dechnegau rheoli yn cael eu defnyddio ar draws y dirwedd er mwyn caniatáu i wahanol rywogaethau o flodau gwyllt ffynnu gan ddefnyddio’r offer cywir, dyfalbarhad ac amser. 

Trwy amrywiaeth o bartneriaethau prosiect a phartneriaethau a ariennir drwy grant, mae sawl dull gwahanol i greu a rheoli ardaloedd blodau gwyllt wedi’u treialu gan y Gwasanaeth Cefn Gwlad fel dewis amgen i’r ardaloedd blodau gwyllt blynyddol arferol, sydd, er iddynt greu argraff weledol arbennig, yn ddibynnol ar ail-greu yn rheolaidd. Ochr yn ochr â phlannu coed, caniatawyd i laswelltir amwynder ac ochrau ffyrdd dyfu’n hirach dros yr haf, gyda’r gwaith torri’n digwydd yn ddiweddarach er mwyn gadael i’r glaswellt a’r blodau dyfu drwy gydol y tymor. Mae’r dull hwn wedi cynnwys y gwaith cynnal a chadw hanfodol ac angenrheidiol i sicrhau nad oes unrhyw effaith ar ddiogelwch priffyrdd. 

Gan ddefnyddio glaswellt blodau gwyllt eisoes wedi’i dyfu, yn cynnwys blodau gwyllt brodorol lluosflwydd, mae Tîm Mynediad ac Amgylchedd Naturiol y Cyngor yn gweithio i leihau ein dibyniaeth ar chwyn laddwyr ac efallai bod hefyd cyfle i gyflwyno blodau gwyllt mewn ardaloedd sydd yn draddodiadol wedi’u plannu â phlanhigion i'w plannu allan. 

Ymgymerir â’r holl ddulliau hyn gyda chynaliadwyedd hirdymor a’r fantais o ran bioamrywiaeth mewn golwg ac mae prosiectau yn y dyfodol mewn partneriaeth ag Asiantaeth Cefnffordd y Gogledd a Chanolbarth Cymru, Cyngor Sir Ddinbych ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn cael eu hystyried. 

Dywedodd Y Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad; 

“Mae hyn yn waith ardderchog gan ein Gwasanaeth Cefn Gwlad a braf yw gweld y glaswellt hir a’r blodau gwylltion ar ochr y ffyrdd yn llawn bywyd. Mae’n dda bod cyfleoedd lleol i’n cymuned ddysgu am ddulliau rheoli traddodiadol ar gyfer dolydd ac i’r Tîm Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol archwilio dulliau gwahanol i sicrhau’r canlyniadau gorau.  Mae’n bwysicach nawr ein bod yn rheoli ein hamgylchedd naturiol er mwyn cynaliadwyedd ein bioamrywiaeth ac mae defnyddio dulliau amrywiol i reoli’r ddôl yn ffordd wych o wneud hynny.”  

 Scything County Hall July 2019.jpg