Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Trosglwyddo Cofnodion Catrodol 

Published: 13/08/2019

Bu i Swyddfa Gofnodion Sir y Fflint groesawu Cangen Shotton a Glannau Dyfrdwy o Gymdeithas Cydfilwyr Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn ddiweddar.

Bu iddynt ymweld â’r Swyddfa Gofnodion i drosglwyddo cyfres o wyth cyfrol gyhoeddedig o’r enw “Cofnodion Catrodol y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig” yn ogystal ag anrhegu copi o hanes y gatrawd wedi’i arwyddo gan swyddogion y Gymdeithas Cydfilwyr Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.    

Sefydlwyd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym 1689 ac roedd dynion yn cael eu recriwtio o Ogledd Cymru’n bennaf. Drwy gydol hanes hir, roedd yn rhan o sawl ymgyrch. Yn 2006, fe’i unwyd i greu'r Cymry Brenhinol.

Tair ar ddeg o flynyddoedd ar ôl ei sefydlu, roedd y gatrawd hon yn un o’r cynharaf i gael ei hanrhydeddu â’r teitl ffiwsilwr, a dwyn yr enw Ffiwsilwyr y Gatrawd Gymreig. Roedd yn un o’r catrodau hynaf yn y Fyddin, sydd felly'n egluro’r sillafiad hynafol o’r gair ‘Welch’ yn hytrach na ‘Welsh’ yn y Saesneg.  

Dywedodd Claire Harrington, Prif Archifydd Cyngor Sir Y Fflint:

“Anrhydedd oedd croesawu aelodau o Gymdeithas Cydfilwyr Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig i’r Swyddfa Gofnodion a braint oedd derbyn eu rhodd hael o Gofnodion Catrodol a fydd yn cael eu cadw yn yr archifau gan ganiatáu i genedlaethau'r dyfodol ddarllen am hanes diddorol un o gatrodau hynaf y Fyddin Brydeinig.”

Royal Welch.jpg

 

 

 

 

 

 

 

 

Aelodau’r Gymdeithas Cydfilwyr Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn y seremoni drosglwyddo.