Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cerflun ‘Cawr Pont Penarlâg ar fin Dychwelyd Adref

Published: 12/05/2014

Yn dilyn misoedd o gynllunio a pharatoi, mae cerflun Cawr Pont Penarlâg ar fin dychwelyd i Lannau Dyfrdwy. Maer cerflun, sy’n cael ei adnabod gan lawer yn lleol fel y Dyn Dur, yn cynrychioli gweithiwr dur ar hen safle John Summer’s ai Fab yn Shotton, sydd bellach yn safle cwmni dur Tata. Cafodd y cerflun ei symud i’r Adeiladau Dinesig yn yr Wyddgrug adeg cau Swyddfeydd y Cyngor Sir yn Ewlo ar ddechrau’r flwyddyn 2000. Fodd bynnag, mae Cyngor Tref Shotton wedi dymuno gweld y cerflun yn cael ei leoli yn agosach i’r fan a’i ysbrydolodd ac mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithion agos gyda hwynt i gyflawni hyn. Mae ail-leoli’r cerflun yn rhan o raglen Ardal Adnewyddu Cei Connah, Shotton a Queensferry. Derbyniwyd cyllid ar gyfer y Cynllun oddi wrth Gyngor Tref Shotton, Cyngor Sir y Fflint a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF). Mae tirwedd Glannau Dyfrdwy yn parhau i ddatblygu ac maer cerflun yn ffordd o roi cydnabyddiaeth deilwng i orffennol diwydiannau trwm Glannau Dyfrdwy, wrth i’r ardal edrych ymlaen at ddyfodol disglair i’r ardal, gyda chefnogaeth ei diwydiannau gweithgynhyrchu blaengar. Bydd y cerflun yn cael ei leoli ar gyffordd Dwyrian Ffordd Caer a Rhodfa Rowley yn Shotton. Bydd y lleoliad newydd ar gyfer y cerflun yn cael ei wella drwy ychwanegu coed, llwyni, seddi a goleuadau. Mae’r gwaith yma’n mynd rhagddo a disgwylir ei gwblhau yn ddiweddarach y mis hwn. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, yr Aelod Cabinet ar gyfer Tai: Mae Cyngor Tref Shotton wedi rhoi cefnogaeth wych i’r prosiect hwn ac rwyf wrth fy modd bod y cerflun or diwedd yn cael ei symud i Shotton lle rwy’n si?r y bydd yn dod yn rhan drawiadol a nodedig o dirwedd y dref.