Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhaglen Gwella Gwyliau

Published: 13/08/2019

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal Rhaglen Gwella Gwyliau (SHEP) Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) am yr ail flwyddyn yn olynol yr haf hwn.

Mae SHEP yn raglen a chynhelir gan CLlLC ers 2016. Mae'n raglen ar gyfer ysgolion sy’n darparu prydau iach, addysg am fwyd a maeth, ymarfer corff a sesiynau cyfoethogi i blant mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol yn ystod gwyliau’r haf. 

 ‘Bwyd a Hwyl’ yw enw’r brand a ddefnyddir i hyrwyddo’r clybiau i blant a theuluoedd.

Cynhelir y rhaglen bedwar diwrnod yr wythnos, yn ail, trydedd a phedwaredd wythnos gwyliau’r ysgol ar bedwar safle - Ysgol Maes y Felin, Treffynnon, Ysgol Uwchradd Dewi Sant, Saltney, Ysgol Gynradd Queensferry ac Ysgol Uwchradd y Fflint. Mae 40 lle ar bob safle ac mae’r niferoedd wedi bod yn gadarnhaol dros ben.

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a’r Aelod Cabinet dros Addysg; 

 “Mae'n sefyllfa drist iawn yn yr 21 ganrif, bod plant yn llwglyd dros wyliau'r haf gan fod teuluoedd yn ei chael hi'n anodd fforddio neu gael mynediad at fwyd sy'n darparu deiet iach.  Yn ystod y tymor, gallent gymryd mantais o glybiau brecwast a phrydau ysgol am ddim, ond wrth i dlodi bwyd ddod yn broblem gynyddol yng Nghymru, mae cynlluniau fel hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol - nid yn unig i ddarparu plant â dau bryd iach y diwrnod, ond eu hannog i fod yn fwy egnïol, gwneud ffrindiau newydd ac ymgysylltu mwy gyda’r ysgol.

Mae diwrnod arferol yn dechrau am 9am a gorffen am 1pm, ac yn cynnwys brecwast, gweithgareddau dysgu hwyliog, gweithgareddau corfforol a sesiynau chwaraeon ac yn gorffen gyda chinio.

Dywedodd y Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Claire Homard:

 “Gwahoddir rhieni i ymuno â’u plant am ginio bob dydd Iau tra mae’r cynllun yn cael ei gynnal. Gall gynnwys yr holl deulu fel hyn, helpu i wella iechyd a lles rhieni, eu helpu i fodloni costau gwyliau ysgol a’u hannog i ddysgu sgiliau newydd.  Gallwn hefyd cynnig cymorth i’w cyfeirio at wasanaethau eraill i’w cefnogi nhw, a’n bwriad y flwyddyn nesaf yw cynnal “Bwyd a Hwyl” ar 4 safle ychwanegol.”

Mae Arlwyo NEWydd yn garedig iawn, wedi rhoi eitemau brecwast a chinio llawn maeth i’r cynllun a 

dywedodd Steve W Jones, Cyfarwyddwr Rheoli Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau NEWydd:

 “Rydym yn falch iawn o gefnogi'r cynllun ffantastig hwn am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae ein cyflenwyr wedi bod yn hael iawn wrth gefnogi'r ddarpariaeth brecwast a chinio i blant Sir y Fflint. Mae Ravenscroft a Thackeray, Jones Price, The Little Food Company a Mackro, Queensferry wedi rhoi sawl eitem hefyd, gan alluogi ein staff i gynhyrchu bwydlen llawn maeth a chytbwys ar draws y rhaglen.”

 3531.jpg