Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dweud eich dweud ar Strategaeth Tai a Chynllun Gweithredu 2019-24 

Published: 21/08/2019

Rhwng 19 Awst a 20 o Fedi mae Cyngor Sir y Fflint yn ymgynghori ar Strategaeth Tai a Chynllun Gweithredu ar gyfer 2019-2024, sy’n gosod ein huchelgais i ddarparu tai fforddiadwy a chefnogaeth ar draws Sir y Fflint ar gyfer ein trigolion. 

Er bod y Cyngor yn wynebu heriau sylweddol gyda llai o adnoddau ond gan gyflwyno ‘mwy am lai’, rydym, serch hynny, yn ymroi i’r egwyddor bod cartref o safon dda wrth wraidd lles unigolion a chymunedol, a byddwn yn parhau i alluogi’r ddarpariaeth o gartrefi priodol a fforddiadwy, yn enwedig i’r rhai â’r angen mwyaf.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Sir y Fflint, y Cynghorydd Dave Hughes:

“Mae ein Strategaeth Tai yn gosod sut bwriadwn gyflawni hyn trwy weithio ar y cyd gyda’n partneriaid strategol mewn ffordd ddeallus ac arloesol i gyflawni’n huchelgais. Mae’r Strategaeth newydd yn rhoi manylion ein blaenoriaethau a chamau gweithredu allweddol i gyflawni wrth symud ymlaen, yn ogystal â chydnabod ein cynnydd hyd yma.”

Cliciwch yma i ddweud eich dweud (siryfflint.gov.uk/StrategaethTai19).