Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn cael cydnabyddiaeth am ‘Weithio tuag at fod yn gyngor Dementia Gyfeillgar’

Published: 20/08/2019

Mae’r Gymdeithas Alzheimer wedi cydnabod Cyngor Sir y Fflint fel Cyngor sy’n ‘Gweithio Tuag at fod yn gyngor Dementia Gyfeillgar’ – y Cyngor cyntaf yng Nghymru i gael y gydnabyddiaeth hon.  

Mae Rhaglen Cymunedau a Sefydliadau Dementia Gyfeillgar y Gymdeithas Alzheimer yn anelu at annog pawb i rannu cyfrifoldeb dros sicrhau bod unigolion â dementia yn teimlo eu bod yn cael eu deall, eu gwerthfawrogi ac yn gallu cyfrannu at eu cymuned. Mae hyn yn canolbwyntio ar wella cynhwysiant ac ansawdd bywyd drwy hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth mewn cymunedau a sefydliadau fel eu bod yn gallu ymateb yn well i anghenion pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr. 

Yn ddiweddar lansiodd y Cyngor ei gynllun gweithredu lleol sy’n amlinellu meysydd gwaith dros y 12 mis nesaf; datblygwyd tudalennau’n canolbwyntio ar anghenion pobl â dementia ar y we sy’n gyfeirlyfr o wasanaethau a gwybodaeth, ac mae rhaglen o hyfforddiant ‘Cyfeillion Dementia’ ar waith ar draws y gweithlu. 

Er mwyn cynnal y gydnabyddiaeth a gafwyd, bydd y Cyngor yn cyflwyno cynlluniau gweithredu blynyddol i’r Gymdeithas Alzheimer, sy’n cael eu harwain gan Grwp Llywio o gynrychiolwyr y Cyngor ac aelodau’r gymuned sy’n byw gyda dementia.     

Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Wasanaethau Cymdeithasol:

“Rydym yn falch iawn o fod y Cyngor cyntaf yng Ngogledd Cymru i dderbyn y statws hwn ac rydym wedi ymrwymo i wella gwasanaethau’n lleol ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr.  Mae’n rhaid i mi ddiolch i’n gwirfoddolwyr am y gwaith rhagorol maen nhw’n ei wneud yn ein cymunedau, yn rhedeg ein caffis dementia, yn gweithio tuag at ein Cymunedau Dementia Gyfeillgar ac am eu rhan mewn hyfforddi cyfeillion dementia.  Byddwn yn parhau i ddarparu ein cynllun datblygu lleol ac i gynnwys trigolion yn y gwaith wrth i ni symud ymlaen.”     

Meddai Jo Lane, Cydlynydd Cymunedau Dementia Gyfeillgar y Gymdeithas Alzheimer:

“Mae’r gwaith a’r ymrwymiad a wnaed i ennill y gydnabyddiaeth ffurfiol hon yn ysbrydoledig”

Mae Cynllun y Cyngor 2017-23 yn gwneud ymrwymiad pellach i ddatblygu ymwybyddiaeth o, a chefnogaeth i bobl â dementia ar draws y sir drwy:

  • gynyddu nifer y cymunedau dementia gyfeillgar yn Sir y Fflint; a
  • gweithio mewn partneriaeth er mwyn cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia yn y gymuned.