Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cytundeb Rheoli Dyffryn Maes Glas

Published: 19/08/2019

Arwyddodd Ymddiriedolaeth Treftadaeth Dyffryn Maes Glas a Chyngor Sir y Fflint Gytundeb Rheoli yn ddiweddar, gyda’r nod o sicrhau cynaliadwyedd Dyffryn Maes Glas fel cyfleuster lleol ac fel safle o ddiddordeb hanesyddol rhanbarthol a chenedlaethol o bwys. 

Dywedodd Gwladys Harrison, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas;

 “Dyma amser cyffrous iawn i ni. Ar ôl sicrhau bron i £1m o arian Loteri Treftadaeth yn ddiweddar, ni fu erioed amser gwell i ni ddatblygu a chryfhau ein trefniadau llywodraethol. Mae'r heriau yn cynnwys cynyddu nawdd a ffrydiau incwm mewn marchnad atyniadau gystadleuol, a rheoli o fewn ein modd yn ystod cyfnod o gyfyngder ariannol sector cyhoeddus.

 “Rydym yn hyderus ym mhotensial aruthrol Dyffryn Maes Glas ac am gael ei gydnabod yn yr un modd â safleoedd eraill megis Ceunant Ironbridge yn Swydd Amwythig”.

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad; 

 “Mae Sir y Fflint yn falch o gael Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas yn ei dreftadaeth, man agored a chynnig twristiaeth. Mae ardaloedd Maes Glas, Treffynnon a thu hwnt yn llawn hanes, a’r Parc yw’r atyniad canolog ar gyfer teuluoedd a gweithgareddau awyr agored. 

 “Mae proffil y Parc Treftadaeth yn tyfu drwy gyfuniad buddsoddiad sylweddol Cronfa Dreftadaeth Y Loteri, a chyd ymdrechion yr Ymddiriedolwyr a’r Cyngor i hyrwyddo mynediad i drigolion a thwristiaid fel ei gilydd”.

 “Mae’r Cyngor yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Bwrdd yn y cam pwysig nesaf o hanes balch y Parc”. 

 

4592.jpg 

 

Yn y llun: Tom Woodall, Rheolwr Mynediad a'r Amgylchedd Naturiol;  Andy Farrow, Prif Swyddog Cynllunio, Amgylchedd ac Economi;

Cyng. Carolyn Thomas; Gwladys Harrison