Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Masnachwyr Yr Wyddgrug yn gwella eu sgiliau cyfryngau cymdeithasol

Published: 21/08/2019

Roedd dwy ar bymtheg o fusnesau marchnad Yr Wyddgrug a’r stryd fawr leol wedi manteisio ar gyfle i ddysgu mwy am gyfryngau cymdeithasol mewn gweithdy am ddim gan Cyflymu Busnesau Cymru mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref Yr Wyddgrug.  

Yn y sesiwn dwy awr, aeth Adam Gerrard, ymgynghorydd busnes digidol drwy elfennau sylfaenol cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys: 

  • Cyflwyniad i Facebook, Twitter, Instagram a LinkedIn
  • Arddangosfeydd byw ar becyn creu cynnwys Canva a phecyn trefnu Buffer 
  • Manteision Google My Business i gynnwys dangos sut i’w ddefnyddio 
  • Sut i fesur eich gweithgaredd cyfryngau cymdeithasol 

Mae pymtheg o berchnogion busnes wnaeth fynychu’r gweithdy nawr wedi cofrestru ar raglen cymorth i fusnesau gan Cyflymu Busnesau Cymru i gael mwy o fudd o’r gefnogaeth ddigidol am ddim i fusnesau fydd yn cynnwys mentora 1 i 1 ac adolygu gwefan.   

Dywedodd Karlos O’Neill, Rheolwr Partneriaethau, Cyflymu Busnesau Cymru:  

“Yn dilyn llwyddiant ein gweithdy cyntaf, rwyf wedi bod mewn trafodaethau gyda Chyngor Sir y Fflint i ddarparu mwy o ddigwyddiadau i gefnogi busnesau lleol.   

“Bydd perchnogion busnes yn cael y cyfle i wella eu sgiliau yn un o’n gweithdai technoleg ddigidol am ddim a chael mwy o gyngor wedi’i deilwra mewn sesiwn 1 i 1 gydag un o’n hymgynghorwyr busnes yn dilyn y gweithdy. 

“Mae Cyngor Sir y Fflint a Cyflymu Busnesau Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda’i gilydd i helpu busnesau lleol yn Sir y Fflint ddysgu sut i ecsbloetio technoleg ddigidol i ddenu mwy o gwsmeriaid, arbed arian, bod yn fwy effeithiol a thyfu yn y pen draw."