Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynnig Gofal Plant, Sir y Fflint

Published: 21/08/2019

Gallwch wneud cais am Gynnig Gofal Plant wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy wefan Cyngor Sir y Fflint.

Mae’r Cynnig Gofal Plant yn darparu 30 awr o ofal plant ac addysg gynnar i blant 3 a 4 oed am hyd at 48 wythnos o’r flwyddyn i rieni sy’n gweithio. 

Bydd plant yn gallu manteisio ar y Cynnig Gofal Plant o gychwyn y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed tan y mis Medi ar ôl iddynt droi’n bedair. Bydd pob rhiant, neu gyplau sy’n byw gyda'i gilydd, mewn cartrefi sy'n gweithio o leiaf 16 awr neu fwy ar isafswm cyflog cenedlaethol neu uwch, heb fod yn fwy na £100,000 y rhiant, yn gymwys ar gyfer y Cynnig. Mae eithriadau yn gymwys.

Cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint i ddarganfod mwy, ar: 01352 703500 neu e-bost fisf@flintshire.gov.uk. I wneud cais, ymwelwch â: siryfflint.gov.uk/cynniggofalplant.