Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Safonau Masnach – cadw plant yn ddiogel 

Published: 23/08/2019

Mae Swyddogion Safonau Masnach Sir y Fflint yn dymuno atgoffa perchnogion siopau a busnesau eraill am bwysigrwydd sicrhau bod cynnyrch gyda chyfyngiad oedran arnynt yn cael eu gwerthu i gwsmeriaid yn yr oedran priodol yn unig.  

Mae cynnyrch fel cyllyll ac alcohol angen dangos prawf oedran pan fydd y prynwr yn ymddangos o dan 25 oed.  Gall Safonau Masnach ddarparu cyngor ar gynllun “Her 25” y DU i unrhyw fusnes sy’n gwerthu nwyddau â chyfyngiad oed.  

Mae swyddogion hefyd yn gofyn i unrhyw un â phryderon am y math hyn o gynnyrch yn cael eu cyflenwi i blant gan fusnesau i gysylltu â Safonau Masnach.   Yna gall Safonau Masnach ymchwilio eu pryderon i sicrhau nad yw plant yn cael eu rhoi mewn perygl o gyflenwad a defnydd anghyfreithiol o’r cynnyrch hyn.  

Mae’n bwysig bod y staff manwerthu wedi eu hyfforddi ac yn ymwybodol o’r angen i herio prawf oed pan mae unigolyn sy’n ymddangos o dan 25 oed yn dymuno prynu cynnyrch.   Os na fydd yr unigolyn yn gallu darparu prawf adnabod, yna dylid gwrthod gwerthu cynnyrch iddynt. 

Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Chris Bithell:

“Mae arolwg Safonau Masnach Cymru gyfan diweddar yn awgrymu bod gwerthiant anghyfreithiol yn cynyddu ar draws Cymru yn anffodus, gyda 30% o fanwerthwyr yr ymwelwyd â nhw yn gwerthu alcohol i blant, 22% yn gwerthu sigaréts a 6% yn gwerthu tân gwyllt.  

“Yn ffodus, roedd y lefelau ar gyfer Sir y Fflint ymhell islaw’r ffigyrau cenedlaethol hyn a hoffwn ddiolch i fusnesau am weithio mewn partneriaeth gyda’r cyngor a phartneriaid eraill gan gynnwys yr heddlu.   Mae diogelu iechyd, lles a diogelwch ein cymunedau a busnesau ar draws Sir y Fflint yn flaenoriaeth uchel i’r cyngor ac mae gwaith ein Swyddogion Safonau Masnach yn rhan allweddol o hyn.” 

Mae Swyddogion Safonau Masnach Sir y Fflint a Heddlu Gogledd Cymru yn gorfodi’r gyfraith ar y cyd i atal gwerthu alcohol i blant ac maent yn cydweithio mewn meysydd eraill gan gynnwys lleihau trosedd cyllyll ac argaeledd cyllyll.   Yn ystod yr haf, mae swyddogion y Cyngor yn gweithio gyda heddweision a gwirfoddolwyr ifanc i gynnal prawf prynu mewn eiddo manwerthu.  Hyd yma mae’r gwaith hwn wedi targedu gwerthwyr alcohol a chyllyll.   

Mewn prawf diweddar ar gyfer gwerthu alcohol, roedd yr un ar ddeg eiddo yr ymwelwyd â nhw i gyd yn herio ein gwirfoddolwr ifanc am ddull adnabod a gwrthodwyd gwerthu iddo.   Lle gwerthir i blant, bydd y rhain yn cael eu hymchwilio’n llawn a gall arwain at ddirwyon yn y fan a'r lle neu erlyn y gwerthwr a’i gyflogwr.  

Os byddwch yn credu bod busnes yn gwerthu i blant dan oed, gallwch roi gwybod i ni am y mater yn gyflym ac yn ddienw drwy naill ai cysylltu â Cyswllt Defnyddwyr Cymru ar 03454 04 05 06 neu os byddai’n well gennych siarad gyda rhywun yn Gymraeg 03454 04 05 05. 

Neu gallwch anfon e-bost trading.standards@flintshire.gov.uk gan gynnwys gwybodaeth berthnasol, er enghraifft enw siop, lleoliad a phryd wnaeth y gwerthiant ddigwydd.

Heblaw’r canlyniadau cyfreithiol i’r manwerthwr, gall gwerthu i blant dan oed gael effaith gwirioneddol ar iechyd a lles ein plant hyd at pan fyddant yn oedolyn.  Cofiwch am yr ystadegau canlynol: 

  • Mae 450 o blant yn dechrau ysmygu ym Mhrydain Fawr bob dydd 
  • Mae 22% o blant 15 oed yn ysmygu’n rheolaidd 
  • Roedd 80% o ysmygwyr heddiw wedi dechrau ysmygu yn eu harddegau 
  • Ar gyfartaledd, mae pobl ifanc yn eu harddegau yn yfed 4 peint o gwrw’r wythnos
  • Roedd 58% o bobl a anafwyd gyda thân gwyllt y llynedd o dan yr oedran prynu cyfreithiol , sef 18 oed. 

Mae’r canlynol i gyd yn nwyddau â chyfyngiad oed:

  • Sigaréts a Chynhyrchion Tybaco Eraill – 18 oed 
  • Tân Gwyllt – 18 oed
  • Alcohol – 18 oed
  • Cyllyll ac Arfau Bygythiol Tebyg – 18 oed 
  • Sylweddau Meddwol – (gan gynnwys Glud – gludydd, Toddyddion ac ati) - 18 oed
  • Ail-lenwad Tanwyr Sigarets – 18 oed 
  • Paent Chwistrellu Aerosol – 18 oed
  • Fideos, DVD a Gemau Cyfrifiadur – Addas i’r oedran fel y nodwyd yn unigol 
  • Tocynnau Loteri – 16 oed 
  • Petrolewm – 16 oed