Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Newidiadau i’r Cynllun Nofio am Ddim

Published: 02/09/2019

Yn dilyn adolygiad annibynnol a wnaed ar ran Llywodraeth Cymru, bydd newidiadau yn cael eu gweithredu yn yr hydref i'r Cynllun Nofio am Ddim.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gweithio gyda Chwaraeon Cymru a Nofio Cymru i ddatblygu cynnig ar gyfer y sir sy’n cwrdd ag anghenion yr amcanion newydd a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y sesiynau nofio am ddim presennol yn parhau drwy gydol mis Medi gyda’r holl newidiadau i’r sesiynau yn dod yn weithredol o 1 Hydref 2019.

Bydd y pum pwll nofio yn Sir y Fflint yn rhoi gwybod i gwsmeriaid beth yw'r newidiadau i'r amserlen ac yn rhoi gwybodaeth am fynediad i’r sesiynau o dan y Cynllun Nofio am Ddim dros yr wythnosau nesaf.  

Mae sesiynau am ddim i’r rhai Dros 60 oed wedi eu cadarnhau ymhob un o’r safleoedd a byddant ar gael bob wythnos ar y dyddiau canlynol:

Cambrian Aquatics – Dydd Llun (10am – 11am)
Bwcle – Dydd Mawrth (12pm – 1pm)
Canolfan Hamdden Treffynnon – Dydd Iau (8.15am – 9.30am)
Pafiliwn Jade Jones – Dydd Gwener (9am – 10am)
Canolfan Hamdden Yr Wyddgrug – Dydd Sadwrn (12pm – 1pm).

Yn ogystal â'r sesiynau am ddim bydd aelodaeth â chymhorthdal ar gael drwy Hamdden a Llyfrgelloedd Aura, Cambrian Aquatics a Chanolfan Hamdden Treffynnon a fydd yn caniatáu mynediad i’r holl sesiynau cyhoeddus drwy gydol y flwyddyn. Bydd rhagor o fanylion am y cynigion hyn ar gael ar wefannau’r tri sefydliad neu yn eich pwll lleol.

Bydd sesiynau am ddim ar gyfer y rhai dan 16 oed yn canolbwyntio ar sesiynau a gwersi sblash wedi eu targedu a bydd y cynnig hwn yn cael ei ddatblygu dros y misoedd i ddod i dargedu’r rhai sy’n wynebu rhwystrau mawr ar hyn o bryd o ran cael mynediad i’w pwll lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Addysg:

“Mae’r Cynllun Nofio am Ddim wedi galluogi preswylwyr Sir y Fflint i ddefnyddio ein pyllau nofio rhywbeth nad oedd o bosib, i rai, yn bosibl heb y cynllun ac rydym ni’n gweithio gyda’n pyllau nofio lleol i leihau’r effaith ar gyfranogwyr presennol a'r dyfodol. Gall nofio gael nifer o fanteision o ran iechyd i unigolion a chymunedau a'n bwriad yw parhau i wneud nofio’n hygyrch."

Os oes gennych ymholiadau pellach yn ymwneud â’r sesiynau nofio am ddim, cysylltwch â’ch pwll nofio lleol os gwelwch yn dda:

Canolfan Hamdden Bwcle, 01352 704290/704291; Cambrian Aquatics, 01244 956595; Canolfan Hamdden Treffynnon, 01352 355100; Pafiliwn Jade Jones, 01352 704301; Canolfan Hamdden Yr Wyddgrug, 01352 704330 neu gallwch ymweld â gwefan Aura Wales aura.wales, gwefan Canolfan Hamdden Treffynnon holywellleisurecentre.com neu dudalen Facebook Cambrian Aquatics facebook.com/cambrianaquatics.