Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Flintshire Jobs Skills and Training Event

Published: 09/04/2015

Ydi’r farchnad swyddi’n achosi dryswch i chi neu oes arnoch chi angen cyngor ynglyn â sgiliau a hyfforddiant? Dewch draw i Ddigwyddiad Swyddi, Sgiliau a Hyfforddiant Sir y Fflint yng Nghei Connah i dderbyn gwybodaeth i’ch helpu chi gael gwaith. To date more than twenty employers have reserved stands. Representatives from local businesses Mcdonalds, Ralawise, Domino’s Pizza, Delsol and Gap Personnel will be present on the day to discuss their vacancies. Employers from the care sector including Kinsale School, Premier Homecare and MHC (Mental Healthcare) will be on hand to provide current opportunity information. Mae Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru yn dwyn cyflogwyr lleol, darparwyr gwasanaethau a phobl sy’n chwilio am waith ynghyd yn y Neuadd Ddinesig yng Nghei Connah ddydd Iau 16 Ebrill 2015 rhwng 10am a 3pm. Bydd busnesau sydd â swyddi lleol a lleoliadau profiad gwaith yn bresennol ar y diwrnod i drafod eu cyfleoedd. Bydd cyngor ymarferol ar sut i ddod o hyd i waith gan gynnwys gweithdai ar dechnegau mewn cyfweliad, ysgrifennu CV a llenwi ffurflenni cais. Bydd partneriaid addysg bellach ac uwch hefyd wrth law i drafod hyfforddiant a chyrsiau sydd ar gael yn eich cymuned. Bydd cynrychiolwyr Clwb Menter Cymunedau yn Gyntaf hefyd yn bresennol i hyrwyddo cyfleoedd entrepreneuraidd yn Sir y Fflint ar gefnogaeth sydd ar gael i bobl sydd eisiau dechrau eu busnes eu hunain. Bydd Gyrfa Cymru yn cynnig cymorth gyrfaoedd wedi ei deilwra ar gyfer pobl ifanc 16 oed a hyn a bydd mentoriaid y rhaglen LIFT yn darparu cymorth un i un ar gyfer pobl sy’n byw yn ardal Cymunedau yn Gyntaf sydd wedi bod yn ddi-waith ers chwe mis neu fwy ac sy’n byw mewn aelwydi di-waith. Bydd ymgynghorydd rhieni Cymunedau yn Gyntaf hefyd yno i gynnig cefnogaeth a chyngor i rieni. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Nia neu Kate yn Cymunedau yn Gyntaf ar 01352 703024 / 01244 846090. GALW POB CYFLOGWYR LLEOL A oes gennych chi swydd wag iw llenwi? Hoffech chi i’r Ganolfan Byd Gwaith hysbysebu’r swyddi gwag yma ar eich rhan yn y digwyddiad? Os felly, cysylltwch â Paul Murphy yn y Ganolfan Byd Gwaith ar 01244 583728.