Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Batris botwm – Risg i blant bach o dagu a llosgiadau

Published: 30/08/2019

Dymuna Swyddogion Safonau Masnach Sir y Fflint atgoffa trigolion am beryglon batris botwm neu geiniogau i’ch plant.    

Mae’r batris hyn o amgylch ein cartrefi a gweithleoedd mewn eitemau bob dydd gan gynnwys goriadau car, rheolaeth o bell, oriorau, golau nos, canhwyllau difflam, cymhorthion clyw, teganau a chardiau cyfarch cerddorol. 

Nid ydynt yn peri fawr ddim risg os defnyddir yn y math cywir o gynnyrch a’u gosod yn ddiogel mewn eitem, neu eu storio yn gywir yn y pecyn gwreiddiol nes bydd eu hangen.   Fodd bynnag, os na fydd batris wedi eu gosod yn ddiogel mewn eitem, yn cael eu storio’n rhydd fel rhai sbâr, neu wedi eu tynnu a heb eu gwaredu’n gywir, gallant fod yn beryglus i iechyd a diogelwch ac yn arbennig plant bach.

Os byddant yn eu llyncu, mae’n hawdd i’r plentyn dagu, yn arbennig y batris mwyaf sy’n gallu rhwystro llwybr aer plentyn yn llwyr. 

Maent hefyd yn berygl cemegol os llyncir – mae batri lithiwm yn cynhyrchu soda costig pan fydd mewn cysylltiad â’r poer.   Bydd soda costig yn ymosod ac yn llosgi meinwe meddal, a gall hyd yn oed arwain at farwolaeth mewn achosion difrifol.  

Mae swyddogion Safonau Masnach yn awgrymu gwiriadau rheolaidd ar unrhyw deganau neu eitemau eraill sy’n defnyddio’r batris hyn i sicrhau bod yr adran batri yn ddiogel, unrhyw sgriwiau neu glipiau yn sownd ac nad yw’r eitem wedi’i difrodi.    Hefyd, gwnewch yn siwr eu bod wedi eu cadw yn y pecyn neu gynhwysydd gwreiddiol ac nad yw o fewn cyrraedd plant.   Gwnewch yn siwr eich bod yn cael gwared ar hen fatris yn gywir, maent yn parhau i beri’r un risg o dagu a llosgiadau.    

Lle bydd amheuaeth bod plentyn wedi llyncu batri botwm, dylech geisio sylw meddygol ar unwaith gan fod pob eiliad yn cyfrif lle mae yna berygl o ddifrod cynyddol i feinwe meddal. 

Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Chris Bithell: 

“Mae batris botwm yn gynnyrch diogel a defnyddiol sy’n cynnig ystod eang o fudd yn ein bywyd bob dydd drwy eu defnyddio, storio a’u gwaredu’n gywir.   Mae amddiffyn iechyd, diogelwch a lles ein cymunedau a busnesau ar draws Sir y Fflint yn flaenoriaeth uchel i’r cyngor, ac amddiffyn aelodau ieuengaf ein cymuned yn hanfodol.  Rwy’n llwyr gefnogi cyngor ein swyddogion Safonau Masnach i gymryd y camau syml hyn i amddiffyn ein plant.”

Camau syml i amddiffyn plant. 

  • Storiwch fatris sbâr yn ddiogel ac allan o gyrraedd plant bob amser.   
  • Byddwch yn ymwybodol pa eitemau yn eich cartref sy’n defnyddio batris botwm.
  • Os bydd eitem sy’n defnyddio batri wedi torri neu’n ddiffygiol, trefnwch i’w drwsio neu ei waredu’n ddiogel.
  • Dysgwch blant hyn pam fod batris botwm yn beryglus.  
  • Taflwch hen fatris botwm gynted ag y byddwch wedi eu tynnu o’r eitem gan sicrhau eu bod yn cael eu storio a’u gwaredu’n ddiogel. 

Camau i’w cymryd os bydd plentyn yn llyncu batri botwm. 

  • Ewch â’r plentyn i adran damwain ac argyfwng mewn ysbyty ar unwaith neu ffoniwch am ambiwlans. 
  • Ar ôl cyrraedd yr ysbyty dywedwch wrth y staff meddygol beth ydych yn amau sydd wedi digwydd, os yn bosibl ewch ag unrhyw becyn batri gyda chi gan y bydd hyn yn helpu’r ysbyty i nodi’r driniaeth orau. 
  • Peidiwch â rhoi unrhyw beth i’r plentyn ei fwyta na’i yfed.  
  • Peidiwch â cheisio eu gwneud yn sâl. 
  • Mae pob eiliad yn cyfrif gan y gall unrhyw oedi arwain at niwed cynyddol i organau mewnol a hyd yn oed marwolaeth.  

Mae arwyddion bod plentyn wedi llyncu batri botwm yn cynnwys: 

  • Tagu
  • Poen bol 
  • Glafoeri
  • Bod yn sâl 
  • Gwaed yn y carthion neu wrth daflu i fyny 

Symptomau effeithiau llyncu batri botwm: 

  • Poen bol 
  • Dolur gwddf
  • Blinder
  • Dim eisiau bwyta 

Mae gwybodaeth bellach am ddiogelwch batri botwm ar gael yn y canlynol: 

capt.org.uk/button-batteries

rospa.com/button-batteries

buttonbatterysafety.com