Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith Gwella yn ardal Treuddyn

Published: 02/09/2019

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi buddsoddi’n sylweddol mewn gwaith gwella mewn nifer o gynlluniau yn ardal Treuddyn, fel rhan o’n rhaglen fuddsoddi i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC).

Mae SATC yn safon ansawdd genedlaethol ar gyfer cartrefi a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, ac mae’r gwaith yn cynnig cyfleoedd am swyddi a phrentisiaethau i bobl leol. 

Roedd y gwaith hwn yn cael ei gynnal i wella perfformiad thermol yr eiddo ym Maes Glas a Maes Llewellyn, ynghyd â'r dasg bwysig o ailosod ffenestri, drysau a thoeon allanol.

Mae Inswleiddio’r Waliau Allanol (EWI) wedi codi’r sgôr perfformiad ynni, wedi gwella’r cysur thermol ac wedi helpu gostwng biliau ynni ein tenantiaid.

Yn ogystal, mae EWI wedi datrys y problemau lleithder a llwydni oedd wedi dod yn gyffredin yn yr eiddo hyn, gan wella iechyd ein cwsmeriaid yn awr ac yn y dyfodol. 

Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint:

“Sir y Fflint oedd y Cyngor cyntaf i ddechrau adeiladu tai cyngor mewn cenhedlaeth, sy’n dangos pa mor ymroddedig ydyn ni i ddarparu tai o ansawdd i’n trigolion.    Mae’r gwaith a wnaed yma’n parhau ein rhaglen o welliannau i holl eiddo presennol y cyngor drwy ddiweddaru eu ffenestri a nodweddion allanol eraill.”

 

Treddyn 01.jpg