Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn croesawu 21 o brentisiaid newydd

Published: 10/09/2019

Cyfarfu Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett, ac Arweinydd y Cyngor, Ian Roberts, â’r recriwtiaid newydd ar ddiwrnod cyflwyno yn Academi Dysgu a Datblygu'r Cyngor yng Ngholeg Cambria, Llaneurgain.

Caiff nifer o brentisiaid eu recriwtio bob blwyddyn i ddatblygu sgiliau proffesiynol i ddechrau yn eu gyrfaoedd mewn ystod eang o feysydd gan gynnwys busnes, cyfrifyddiaeth, TGCh, cefn gwlad, a gwaith saer, yn ogystal ag fel gweithwyr Strydwedd.

Mae’r criw eleni’n cynnwys prentis a fydd yn gweithio gyda Hamdden a Llyfrgelloedd Aura yn yr adran gyllid.

Mae’r prentisiaid fel arfer yn mynd i’r coleg un diwrnod yr wythnos i ennill cymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant ac yn ennill profiad gwerthfawr o weithio i’r cyngor ac ennill cyflog.   

Mae Dysgu a Datblygu hefyd wedi cyflogi gweithiwr lefel uwch dan hyfforddiant mewn TG a fydd yn gallu parhau i ennill ei gymwysterau wrth weithio ym maes ei ddewis o yrfa.

Mae prentisiaid hefyd yn gwirfoddoli ac yn cymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol fel rhan o’r fframwaith Brentisiaid sy’n gwella eu profiad dysgu.

Dywedodd Colin Everett, y Prif Weithredwr:

“Mae bob amser yn bleser cael croesawu ein prentisiaid ac rwy’n dymuno pob llwyddiant iddynt wrth iddynt ddechrau ar eu taith i gyflogaeth.  Mae nifer o’n prentisiaid wedi mynd yn eu blaenau i fwynhau gyrfaoedd llwyddiannus yn y crefftau a’r proffesiynau y maent wedi eu dewis. Mae’r ffaith fod 97% o’r rhai sydd ar ein cynllun yn sicrhau cyflogaeth neu leoedd mewn addysg uwch ar ddiwedd eu prentisiaeth yn deyrnged i’r rhaglen a’n partneriaeth gyda Choleg Cambria.”

 

apprentice pixels.jpg