Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Published: 09/09/2019

 

Daeth aelodau a swyddogion Cyngor Sir y Fflint  at ei gilydd gyda chydweithwyr o’r gwasanaethau brys fore heddiw (dydd Llun 9 Medi) i nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys, a chododd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Marion Bateman y faner 999.

 999-1-9.jpg

Meddai’r Cynghorydd Bateman:

 

‘Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig yn gyfle i bawb gofio am gyfraniad pob un o’n gwasanaethau brys – yr Heddlu,  y Gwasanaeth Ambiwlans, y Gwasanaeth Tân ac Achub, Gwylwyr y Glannau a’r RNLI ym mywydau pob un ohonom.

 

Hon yw’r ail flwyddyn i’r fath ddigwyddiad gael ei gynnal ac mae’r amseru a’r dyddiad yn arwyddocaol:    naw o’r gloch y bore ar y nawfed diwrnod o’r nawfed mis.

 999-1-2.jpg