Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy 2019 ar ddod

Published: 10/09/2019

Bydd cannoedd o wirfoddolwyr yn ymgynnull ar lannau’r Afon Dyfrdwy a’r ardaloedd cyfagos dros yr wythnos nesaf ar gyfer digwyddiad blynyddol Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy 2019 i lanhau’r ardal. Mae'r digwyddiad yn dechrau ddydd Gwener 13 Medi yn nodi dechrau wythnos gyfan o ddigwyddiadau glanhau ar hyd yr Afon Ddyfrdwy a'r ardaloedd cyfagos.  

Mae Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy’n un o ddigwyddiadau cymunedol a chadwraeth mwyaf Gogledd-ddwyrain Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr ac mae wedi bod yn ddigwyddiad blynyddol ers 2007, gyda Sir y Fflint, Swydd Gaer a Chyfoeth Naturiol Cymru’n rhan-ddeiliaid allweddol. Ar hyd yr arfordir a’r afonydd sy’n llifo i Afon Dyfrdwy o Dalacre i Gaer a de Sir Ddinbych, mae Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy yn llawer mwy na diwrnod mawr o godi sbwriel.

Bydd y digwyddiad unwaith eto yn golygu bod Cyngor Sir y Fflint a’r cynghorau cyfagos - Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Sir Ddinbych a Chyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda gwirfoddolwyr o grwpiau cymunedol, grwpiau cadwraeth a busnesau ar draws y rhanbarth i glirio'r afon o sbwriel morol, tacluso'r ardaloedd ar hyd y glannau a phlannu coed ffrwythau a thacluso'r ardaloedd arbennig ar hyd glannau, arfordir a dalgylch Afon Dyfrdwy.  Mae eu hymdrechion yn cael eu cydlynu gan Wardeniaid Cefn Gwlad y Cyngor sy’n defnyddio’r cyfle i weithio gyda nifer o grwpiau cymunedol, ysgolion a gwahanol fusnesau fel Airbus, Kingspan, ENI, Toyota, McDonald’s, Tata Steel, KK Fine Foods a llawer mwy. 

Mae rhai eisoes wedi dechrau arni, casglodd Cyfoeth Naturiol Cymru 15 bag o sbwriel o Holway, Treffynnon.  Rhai o’r gweithgareddau glanhau eraill sy'n cael eu cynnal yw: 

• Bydd Kingspan yn clirio o amgylch Porthladd Maes Glas (13/09/2019) 

• Bydd Airbus yn clirio ffin Cymru (13/09/2019)

• Bydd Cyngor Tref Saltney yn clirio o amgylch Saltney (13/09/2019)

• Bydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn clirio o amgylch Talacre (13/09/2019) 

• Mae’r RNLI yn clirio blaendraeth y Fflint (14/09/2019)

• Bydd Cyfeillion Parc Gwepra yn casglu sbwriel ym Mharc Gwepra - digwyddiad cyhoeddus (14/09/2019)

• Bydd Cyfeillion Blaendraeth Bagillt yn casglu sbwriel ar Flaendraeth Bagillt (14/09/2019)

• Bydd Sgowtiaid Treffynnon yn clirio o amgylch ardal Maes Glas (14/09/2019)

• Bydd UPM Smart Solutions yn clirio o amgylch Talacre (16/09/2019)

• Bydd 80 o fyfyrwyr o Goleg Cambria yn casglu sbwriel yn Saltney (17/09/2019) 

• Bydd Toyota a Sustrans yn plannu coed yn y Fflint (17/09/2019) 

• Bydd McDonalds yn casglu sbwriel o amgylch Mostyn (18/09/2019)

• Bydd Sainsbury’s yn gweithio gyda Sustrans yn Swinchard Brook (18/09/2019) 

• Bydd Prosiect Ein Iard Gefn yn clirio o Golftyn i’r Rock (18/09/2019) 

• Bydd y Waterman Quay Association yn clirio'r nant ger yr Hen Borthladd (19/09/2019) 

• Bydd Parc Adfer yn gweithio gydag ysgol leol yn dysgu am broblemau plastigion ac yn casglu sbwriel (19/09/2019)

• Bydd Tata yn gweithio i wella eu grwpiau  

• Mae ENI yn gweithio gyda'r gymuned leol i dacluso o amgylch Talacre (20/09/2019)

• Bydd KK Finefoods yn casglu sbwriel o amgylch y safle diwydiannol (20/09/2019)

• Bydd Parc Gwyliau'r Parlwr Du yn tacluso o amgylch y Parlwr Du (21/09/2019)

Mae amcangyfrif bod dros 12 miliwn tunnell o blastig, yn boteli, bagiau a gronynnau plastig, yn cyrraedd y môr bob blwyddyn (greenpeace.org.uk) ac mae potensial i lawer o blastig fod yn Afon Dyfrdwy a’i haber ac ar ei glannau a’i chorsydd.

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad: 

“Mae Afon Dyfrdwy a’i haber yn amgylchedd morol sydd o bwysigrwydd rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol ac mae hi’n hanfodol ein bod ni i gyd yn deall y bygythiad mae’n ei wynebu o ddeunydd gwastraff, yn enwedig plastig, a’r hyn y gallwn ni ei wneud i gael gwared â’r bygythiadau yma. 

“Mae Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy, sy'n cael ei gynnal am y 13eg gwaith eleni, yn amlygu amgylchedd morol eithriadol ond bregus Afon Dyfrdwy a’r angen i’w pharchu, ei gwerthfawrogi a’i gwarchod.

“Gallwn edrych ymlaen at y digwyddiadau eleni a gwneud Afon Dyfrdwy’n lle brafiach i bawb. Diolch ymlaen llaw i’r cannoedd o wirfoddolwyr sy’n cyfranogi.   Mae’n ddigwyddiad gwych sy’n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fo pawb yn uno gyda'i gilydd ac yn cynorthwyo i wella ein hamgylchedd naturiol". 

Cysylltwch â Wardeniaid Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint ar 01352 703900 neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol (@Countryside&Coast) i gael mwy o wybodaeth neu i ddilyn Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy ar Twitter #BigDeeDay