Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathliadau ar gyfer Pen-blwydd Mary yn 100 oed!

Published: 18/09/2019

Mae Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint wedi helpu un arall o drigolion y Sir i ddathlu pen-blwydd arbennig.

Fe aeth y Cynghorydd Marion Bateman a’i Chymar y Cynghorydd Haydn Bateman i gwrdd â Mrs Mary Gray yng Nghartref Gofal Hollybank yn Shotton, lle cynhaliwyd parti a chyngerdd iddi er mwyn nodi’r achlysur arbennig.

Ganed Mary yn Lerpwl a bu’n byw gyda’i rhieni a’i brawd Jack yn agos iawn i ganol y ddinas. Fe wnaethant brofi'r bomio dychrynllyd yn ystod y rhyfel, ac mae hi’n dal i gofio’r dinistr, yn cynnwys ffenestri’r ty yn cael eu chwalu.  Llwyddodd y pedwar i oroesi diolch i’r drefn.

Fe gyfarfu â’i gwr George ac fe wnaethant briodi yn 1940 a chael tri o blant, Linda, John a David.  Yn 1953 symudodd y teulu i Frychdyn wrth i George gychwyn gweithio yn ffatri’r maes awyr. Yn anffodus bu farw George yn sydyn yn 59 oed. Erbyn hyn roedd Mary yn byw ym Mwcle, a chafodd gymorth ei mam, ei theulu a ffrindiau yn ystod y cyfnod trasig yma.

Mae gan Mary wyth o wyrion ac wyresau, 13 gor-wyr a gor-wyres, ac yn 100 oed, mae synnwyr digrifwch Lerpwl yn dal i fod ganddi, mae hi wrth ei bodd gyda gwydraid o win bob hyn a hyn, canu a dawnsio. Fe fydd hi’n mwynhau dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed gyda’i theulu a'i ffrindiau agos.

 

_DSC5238.JPG        _DSC5251.JPG