Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cabinet yn ystyried cynnydd blynyddol cadarnhaol y Cyngor

Published: 24/09/2019

Gofynnir i Aelodau'r Cabinet ystyried adroddiad sy'n ymdrin â pherfformiad a chyraeddiadau yn erbyn mesurau, cerrig milltir a'r risgiau a nodir yng Nghynllun y Cyngor ar gyfer 2018/19 pan fyddant yn cyfarfod ar ddydd Mawrth, 24 Medi.

Mabwysiadodd y Cyngor ei Gynllun  ar gyfer 2017/23 ym mis Medi 2017. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi perfformio'n dda dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf gan brofi unwaith eto ei fod yn Gyngor uchel ei berfformiad.  Mae hwn yn adroddiad cadarnhaol arall gydag 92% o weithgareddau’n cael eu barnu i fod ar y trywydd iawn a 89% wedi cyflawni'r deilliannau a ddymunwyd.  Mae’r dangosyddion perfformiad yn dangos cynnydd da gyda 70% yn bodloni neu bron a bodloni targed y cyfnod. Mae'r risgiau yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif wedi'u hasesu fel cymedrol (64%),  bach (14%) neu ansylweddol (11%), gydag 11% yn peri pryder.

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Drwy Gynllun y Cyngor, rydym yn blaenoriaethu meysydd a gwasanaethau sy’n bwysig i’n cymuned. Mae’n cael ei fonitro drwy gydol y flwyddyn i asesu a ydym am gyflawni ein targedau. Er gwaethaf nifer o flynyddoedd o heriau ariannol, mae Sir y Fflint yn Gyngor sy'n parhau i berfformio'n uchel."

Mae rhai o’r llwyddiannau hynny yn cynnwys:

  • Parhau i adeiladu cartrefi fforddiadwy newydd y cyngor gyda 153 wedi’u hadeiladu erbyn diwedd Mawrth 2019.  
  • Parhaodd rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif gyda gwaith datblygu mawr yn Ysgol Uwchradd Cei Connah ac ysgol gynradd newydd sbon yn cael ei hadeiladu ym Mhenyffordd yn lle'r ysgol fabanod ac iau bresennol.
  • Wrth weithio’n flaengar, gwelwyd 95% o landlordiaid preifat yn cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru.
  • Agorodd Llys Raddington, gan ddarparu 73 o unedau gofal ychwanegol yn y Fflint, gan ddod â chyfanswm nifer o unedau i 184, gyda 59 arall yn cael eu hadeiladu yn Nhreffynnon.
  • Mae estyniad 32 gwely yng Nghartref Gofal Marleyfield yn mynd drwy’r cam dylunio ar hyn o bryd, gyda’r bwriad o ddechrau gwaith yng nghanol 2021.
  • Mae Hwb Cyfle, a ddaeth yn lle Canolfan Ddydd Glanrafon, ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu, wedi agor.
  • Mae’r Hwb Cymorth Cynnar yn weithredol, gydag ymrwymiad yr holl asiantaethau. Yn ystod y flwyddyn, mae 1,246 o deuluoedd wedi cael mynediad i’r Hwb ac wedi derbyn gwybodaeth a / neu gefnogaeth.
  • Agor Canolfan Ailgylchu Cartref newydd i wasanaethu’r Fflint a Chei Connah yn Rockcliffe, Oakenholt.
  • Darparwyd cefnogaeth ddigidol i 676 o dderbynyddion Credyd Cynhwysol.
  • Mae cyfanswm o 456 o gleientiaid rhwng Cymunedau am Waith a Chymunedau am Waith a Mwy, wedi cofrestru ar gyfer y rhaglen yn ystod 2018/19. Maent oll wedi derbyn mentor.

Mae adnoddau yn parhau i fod yn heriol ond, er gwaethaf hyn, mae'r Cyngor wedi gallu pennu cyllideb gytbwys ar gyfer 2019/20.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett:

“Mae Sir y Fflint wedi bod yn greadigol ac yn llwyddiannus wrth gyflawni ei nodau am flwyddyn arall.  Mae rhai prosiectau wedi’u cwblhau, mae rhai yn dal ar y gweill a byddant yn symud i mewn i’r flwyddyn nesaf wrth i Sir y Fflint barhau i gyrraedd a rhagori ar ei dargedau er gwaethaf yr heriau economaidd parhaus.”