Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ydych chi wedi cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif eto?

Published: 24/09/2019

My Account Cym.jpg

Bellach mae gan Cyngor Sir y Fflint gyfrif ar gyfer preswylwyr a chwsmeriaid i'w galluogi i gael gafael ar nifer o wasanaethau ar-lein. 

Os hoffech chi gofrestru eich plentyn i gael lle mewn ysgol, gweld pryd fydd eich bin yn cael ei gasglu neu ddod o hyd i fanylion cyswllt eich cynghorydd lleol, yna system Fy Nghyfrif newydd y Cyngor ydi’r union beth i chi a gallwch ei ddefnyddio yn unrhyw le ac ar unrhyw adeg sy’n eich siwtio chi.

Mae cofrestru yn gyflym ac yn rhwydd.  Ewch i www.siryfflint.gov.uk/Fy-Nghyfrif a chofrestrwch ar gyfer Fy Nghyfrif rwan! 

Dros y misoedd i ddod, bydd y Cyngor yn ymestyn y gwasanaethau sydd ar gael i drigolion Sir y Fflint drwy Fy Nghyfrif a bydd yn rhoi gwybod i chi wrth i bethau newydd ddod ar-lein. 

Drwy greu cyfrif ar-lein bydd yr wybodaeth yr ydych yn ei darparu yn bwydo i system ganolog sy'n ein galluogi i brosesu eich cais yn llawer cynt.  

Os ydych chi eisiau ychydig o help i gychwyn, ewch draw i un o Ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu ac mi fyddan nhw’n gallu eich helpu i’w sefydlu.