Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Canol Tref Treffynnon – Mynd i’r Afael â Heriau Stryd Fawr yr 21ain Ganrif

Published: 01/10/2019

Dyfarnwyd cyllid i Gyngor Sir y Fflint gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r gwaith sy’n cael ei wneud i gysylltu llwybrau beicio Dyffryn Maes Glas gyda chanol tref Treffynnon ar ei newydd wedd.

Bydd cyllid Llywodraeth Cymru, a ddarperir drwy’r Gronfa Targedu Buddsoddiad Adfywio a’r Gronfa Teithio Llesol, yn cyfateb buddsoddiadau gan Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref Treffynnon. Bydd y prosiect hwn hefyd yn gweld ardal ddigwyddiadau canol tref newydd yng Ngerddi’r Twr a strydlun newydd ar gyfer canol y dref.

 “Bydd llwybrau beicio a gwell mynediad yn cefnogi ac yn gwella bywiogrwydd a hyfywedd canol y dref a Pharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas. Bydd y buddsoddiad hwn yn cynnwys llwybr beicio penodol o Ffordd Bagillt i Whitford Street.

“Mae’r prosiect hwn yn digwydd ar yr un pryd â menter a gefnogir gan Fforwm Fusnes Treffynnon i fywiogi’r stryd fawr.  Mae cyllid ar gael i fusnesau lleol i’w fuddsoddi ym mlaen eu siopau.  Mae hyn yn cael ei gyllido ar y cyd gan bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref Treffynnon.

“Gyda mynediad a pharcio haws i hwyluso pethau a’r atyniad ychwanegol o arena ddigwyddiadau lleol orchuddiedig, gall Treffynnon wynebu heriau stryd fawr y 21ain ganrif gyda mwy o hyder.”

Disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau cyn y Nadolig a bydd angen cau'r Stryd Fawr am gyfnod byr er mwyn caniatáu i’r gwaith fynd yn ei flaen yn gyflym. Anogir trigolion lleol i barhau i ymweld â'r stryd fawr ac estyn eu cymorth i fusnesau lleol wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.