Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Polisi Casglu Gwastraff

Published: 17/04/2015

Yn ei gyfarfod ddydd Mawrth (21 Ebrill) bydd y Cabinet yn trafod Polisi Casglu Gwastraff diwygiedig Cyngor Sir y Fflint. Nod y polisi diwygiedig yw gwella perfformiad ymhellach a sicrhau arbedion hanfodol. Mae’r ffigurau presennol ar gyfer 2015/16 dangos cyfradd ailgylchu o 58% at ei gilydd, sy’n well nag erioed o’r blaen yn Sir y Fflint. I sicrhau bod perfformiad yn parhau i wella hefyd i helpu’r Cyngor Sir yn ei ymdrech i sicrhau arbedion ariannol sylweddol yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, mae nifer o newidiadau wedi’u cyflwyno i’r polisi, sef: Canolfannau Ailgylchu Gwastraff o’r Cartref Ar hyn o bryd mae gan y Cyngor saith Canolfan Ailgylchu drwy’r Sir. Nid yw perfformiad y Canolfannau hyn cystal â’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae’r Canolfannau mwy yn perfformio’n well na’r canolfannau llai gan eu bod yn gallu cynnig mwy o gyfleoedd i ailgylchu. Nid yw rhai o safleoedd presennol Cyngor yn ddigon mawr i ddarparu gwasanaeth llawn ac, er mwyn ceisio gwella perfformiad cyffredinol y gwasanaeth drwy gyfeirio defnyddwyr at y safleoedd mwy, bydd Canolfan Ailgylchu’r Hôb yn cau ar 1 Mehefin 2015 a hynny oherwydd mai perfformiad y safle hwn yw’r gwannaf, ac mae’r nifer sy’n ei ddefnyddio’n isel. Byddai cyfyngu safle’r Hôb a’i ddefnyddio ar gyfer ailgylchu deunyddiau’n unig yn gwella’i berfformiad ond byddai hynny’n costio tua £125,000 y flwyddyn i’w weithredu. Yn yr un modd, pe bai’r safle ar agor ar benwythnosau’n unig, byddai hynny’n costio tua £80,000 y flwyddyn. Bydd y rhai sy’n defnyddio Canolfan Ailgylchu’r Hôb ar hyn o bryd yn gallu defnyddio naill ai Canolfan yr Wyddgrug neu Bwcle. Caiff safle’r Hôb ei fonitron ofalus i atal tipio anghyfreithlon a chymerir camau yn erbyn troseddwyr os daw tystiolaeth i law. Bydd Canolfannau Ailgylchu Cei Connah a’r Fflint ar agor ar ddydd Sadwrn, Sul a Llun yn unig o 1 Mehefin 2015 ymlaen, sy’n adlewyrchu’r ffaith bod rhagor yn defnyddio’r safleoedd hyn ar y dyddiadau hynny. Bydd nifer y staff yn cynyddu yng ngweddill y safleoedd, sef yn yr Wyddgrug, Bwcle, Sandycroft a Maes Glas . Eu rôl fydd annog pobl i ‘ailgylchu’n gyntaf’. Bydd sgipiau ailgylchu ychwanegol yn cael eu gosod yn lle’r sgipiau ar gyfer gwastraff cyffredinol, gan y bydd yr holl wastraff a gaiff ei gludo i’r Canolfannau’n cael ei archwilio i sicrhau bod cymaint â phosibl ohono’n cael ei ailgylchu. Bydd rheolau llymach ar gyfer trwyddedau faniau. Methu casgliadau bin Maer Cyngor Sir yn casglu hyd at 264,000 o finiau gwastraff ac ailgylchu bob wythnos. Maen anochel y bydd nifer fach o finiaua chynwysyddion yn cael eu methu. Gall y criw casglu eu methu weithiau ond, yn aml iawn, y preswylwyr eu hunain sy’n anghofio rhoi’r gwastraff allan ar amser, neu maent yn rhoi’r gwastraff anghywir allan i’w gasglu. Maer gost o ddychwelyd i gasglu’r gwastraff hwn yn rhoi baich ariannol sylweddol ar y gwasanaeth. O 1 Mehefin ymlaen, bydd trefniadau newydd ar waith. Bydd y rhain yn cynnwys penodi un o’r criw casglu i fod yn gyfrifol am gofnodi, yn electronig, pan fydd yr holl wastraff wedi’i gasglu oddi ar bob stryd neu ffordd. Ni fydd y Cyngor Sir yn dychwelyd mwyach i gasglu gwastraff a adawyd ar ôl unwaith y cofnodwyd bod popeth wedi’i gasglu oddi ar y stryd. Gofynnir i drigolion ddefnyddior Ganolfan Ailgylchu Gwastraff o’r Cartref agosaf neu roi eu gwastraff allan ar y diwrnod casglu arferol nesaf. Gwasanaeth Gwatraff o’r Ardd: Codi tâl am finiau brown ychwanegol Gan nad oes unrhyw ddyletswydd statudol i gasglu gwastraff o’r ardd, mae llawer o awdurdodau lleol Cymru a Lloegr yn awr yn codi tâl am y gwasanaeth. Fodd bynnag, gan fod casglu gwastraff o’r ardd yn cyfrannu’n sylweddol at berfformiad ailgylchu cyffredinol y Cyngor a bod cwsmeriaid yn gwerthfawrogi’r gwasanaeth cymaint, bydd Cyngor Sir y Fflint yn parhau i gasglu un bin brown. Fodd bynnag, o 1 Mehefin eleni, bydd yn codi tâl blynyddol am bob bin brown ychwanegol y bydd angen ei gasglu. Hefyd, dim ond rhwng 1 Mawrth a 30 Tachwedd y bydd y Cyngor yn casglu gwastraff o’r ardd, gan mai prin yw’r rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth dros y gaeaf. Caiff hyn ei gyflwyno ar 1 Rhagfyr 2015. Ni fydd y drefn ar gyfer casglu gwastraff o’r bin du, gwastraff bwyd a deunyddiau i’w hailgylchu’n newid. Casglu gwastraf swmpus Ar hyn o bryd maer Cyngor yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff swmpus syn costio tua £200,000 y flwyddyn. Codir tâl bychan o £15 ar y cwsmer, i gasglu hyd at bump o eitemau, ond mae pensiynwyr a’r rhai sy’n cael budd-daliadau’n cael y gwasanaeth rhad ac am ddim. Mae trefniant newydd i godi tâl diwygiedig yn cael ei gyflwyno a bydd hwn yn adlewyrchu cost y gwasanaeth yn well, a chaiff ei adolygu bob blwyddyn. Y tâl ar gyfer 2015-16 fydd £30 a £10 i’r rhai sy’n cael budd-daliadau. Darparu cynwysyddion ailgylchu newydd Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor Sir wedi danfon cynwysyddion ailgylchu newydd yn syth at ddrws y cwsmer. O 1 Mai eleni, bydd y blychau glas a’r bagiau ailgylchu’n parhau i gael eu darparu am ddim, ond bydd angen eu casglu o wahanol safleoedd yn y Sir. Bydd y Cyngor yn parhau i ddanfon y rhain, a biniau du a brown, i’r rhai sydd wedi’u cofrestru ar gyfer y cynllun casglu â chymorth. Dod â’r gwasanaeth Casglu Gwastraff Masnachol i ben Bydd y Cyngor yn rhoi’r gorau i Gasglu Gwastraff Masnachol ond bydd yn darparu rhestr o gyflenwyr addas i fusnesau. Bydd gwasanaeth casglu preswyl arferol ar gael am ddim i addoldai ac ysgolion y Sir. Gwasanaeth casglu 7 diwrnod yr wythnos Yn ystod yr haf, bydd y Cyngor yn cynyddu nifer y casgliadau ar ddydd Sadwrn a bydd nifer fechan o gasgliadau ar ddydd Sul mewn rhai ardaloedd gwledig. Mae hyn yn dilyn lansio gwasanaeth casglu gwastraff 6 diwrnod yr wythnos ym mis Tachwedd 2011. Llwyddwyd i arbed cryn dipyn o ran costau cerbydau drwy gyflwyno’r gwasanaeth ychwanegol hwn ac mae’n cael ei groesawu yn yr ardaloedd perthnasol. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet dros y Strategaeth Gwastraff, Diogelu’r Cyhoedd a Hamdden: “Rydym bob amser yn ddiolchgar in trigolion am eu hymrwymiad parhaus i ailgylchu eu gwastraff. Gan ein bod yn llwyddo casglu cymaint o ddeunyddiau i’w hailgylchu o ymyl o ffordd bob wythnos, mae’r sir yn y chwartel uchaf yng Nghymru, ond maen rhaid i ni barhau i weithion galed i wella ein perfformiad ailgylchu. Maer Polisi Casglu Gwastraff wedi’i ddiwygio fel rhan or her i ddod o hyd i arbedion ariannol sylweddol a bydd y newidiadau hyn yn cryfhau’n safle ymhellach fel awdurdod sy’n arwain yn y maes yng Nghymru.”