Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint

Adolygiad Arolygiaeth Gofal Cymru 2018/19

Published: 18/10/2019

Ar 22 Hydref bydd gofyn i Gabinet y Cyngor nodi asesiad Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) o berfformiad yr awdurdod yn ystod 2018/19 a Chynllun Adolygu Perfformiad AGC ar gyfer 2019-20.

Pob blwyddyn mae AGC yn ysgrifennu ac yn cyhoeddi llythyr ar gyfer awdurdodau lleol sy’n darparu adborth ar arolygiadau a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn yn ogystal â’u prif werthusiad perfformiad ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol. 

Eleni mae llythyr AGC yn amlygu sawl cryfder, gan gynnwys: 

• Ymwybyddiaeth yr Uwch Dîm Rheoli o’r cryfderau a’r meysydd i’w gwella, partneriaethau cadarnhaol yr awdurdod a thystiolaeth o ymatebion amserol a chymesur i ddiogelu oedolion

• Y gwaith sydd wedi’i wneud i wella’r ymateb cydlynol i atgyfeiriadau diogelu oedolion o’r Tîm Un Pwynt Mynediad i’r Uned Ddiogelu 

• Yr Hwb Cymorth Cynnar sydd wedi’i sefydlu yn y Gwasanaethau Plant a’r ffordd y cynhwysir plant sydd wedi erbyn gofal wrth ddatblygu gwasanaethau  

• Y bartneriaeth dda rhwng y Gwasanaeth Oedolion a’r Uned Ddiogelu a’r bartneriaeth gref gydag Addysg, Cludiant a Hamdden, a’r ffordd y mae'r holl wasanaethau yn cydweithio er budd unigolion 

Mae’r llythyr hefyd yn cydnabod nifer o heriau a wynebir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, megis recriwtio gofalwyr maeth. Fodd bynnag, mae’r gwasanaeth wedi datblygu strategaethau i fynd i’r afael â’r materion hynny.

Meddai’r Cyng. Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol; 

“Rwyf yn falch iawn bod AGC unwaith yn rhagor yn cydnabod cryfderau ac ymrwymiad Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint i ddarparu ystod o wasanaethau cymorth a gofal i’n trigolion. Mae hyn yn dyst i waith gwych ein staff a’n timau a’r partneriaethau agos a geir gyda chydweithwyr ar draws y rhanbarth. 

“Fodd bynnag, rydym ni’n cydnabod y bydd yn rhaid i ni barhau i wella gwasanaethau a bydd sylwadau adeiladol a deallus AGC yn help mawr i gyrraedd y nod hwn.” 