Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arosfa

Published: 18/10/2019

Mae Gweithredu dros Blant wedi llwyddo i ddarparu cyfleuster gwyliau byr ar gyfer plant a phobl ifanc 5 i 19 oed gydag anableddau a’u rhieni yn Arosfa, Cartref Plant cofrestredig yn yr Wyddgrug. Darperir llety dros nos i’r rhai sydd angen gofal arbenigol hefyd.

Mae cynlluniau i adnewyddu adain o’r adeilad nad yw’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd er mwyn darparu gofod ar gyfer dau wely ychwanegol ar y safle, er mwyn lletya dau breswylydd hirdymor. Byddai hyn yn darparu gwasanaeth lleol o safon, yn hytrach na lleoliadau tu allan i’r sir, ac yn cyd fynd â’r ddarpariaeth seibiant byr presennol i hyd at dri o blant.

Gyda’i gilydd, bydd y cynlluniau yn ein galluogi i gefnogi pum plentyn ar un tro.

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol;

“Mae’r gwasanaeth hwn yn rhoi cyfle i bobl ifanc dreulio amser tu hwnt i’r cartref, gan eu paratoi nhw ar gyfer byw yn annibynnol yn y dyfodol, a chyfle i rieni a gofalwyr dreulio amser gwerthfawr gydag aelodau eraill o’r teulu.

“Bydd y gofod ychwanegol yn Arosfa yn darparu gwasanaeth lleol, cost effeithiol, safonol, ac yn opsiwn amgen i leoliadau tu hwnt i’r sir.”

Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried adroddiad yn argymell cyllid i gynorthwyo’r gwaith adeiladu ac adnewyddu sydd ei angen yn Arosfa, yn ei gyfarfod ar 22 Hydref.