Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Strategaeth Tai a’r Cynllun Gweithredu

Published: 18/10/2019

Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried adroddiad ar y Strategaeth Tai a’r Cynllun Gweithredu yn ei gyfarfod ar 22 Hydref.

Mae’r Strategaeth Tai a’r Cynllun Gweithredu yn amlinellu uchelgais y Cyngor i ddarparu tai fforddiadwy a chefnogaeth o ran tai i’n preswylwyr sy'n wynebu'r angen mwyaf.

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i’r egwyddor fod cartref o ansawdd da yn greiddiol i les yr unigolyn a’r gymuned a bydd yn parhau i alluogi’r ddarpariaeth o gartrefi priodol a fforddiadwy, yn arbennig i'r rhai sy’n wynebu'r angen mwyaf. Mae’r Strategaeth Tai a'r Cynllun Gweithredu yn amlinellu sut mae'r Cyngor yn bwriadu cyflawni hyn drwy gydweithio gyda phartneriaid strategol mewn ffordd ddeallus a dyfeisgar i gyflawni ei weledigaeth.

O ganlyniad i’r gweithgaredd a amlinellwyd yn Strategaeth Tai flaenorol y Cyngor, fe ddarparwyd dros 400 o dai fforddiadwy newydd ar gyfer eu rhentu ac ar gyfer perchnogaeth. Mae’r Strategaeth newydd yn rhoi manylion ynglyn â’r prif flaenoriaethau a’r camau gweithredu ar gyfer darparu, gan gynnwys y tair blaenoriaeth allweddol canlynol:

  • Cynyddu'r cyflenwad i ddarparu'r math cywir o dai yn y lleoliad cywir;
  • Darparu cefnogaeth i sicrhau fod pobl yn byw ac yn aros yn y math cywir o gartref; a
  • Gwella ansawdd a chynaliadwyedd ein cartrefi.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai, y Cynghorydd Dave Hughes

“Rydym yn edrych ymlaen i weithio gyda'n partneriaid i gyflawni ein gweledigaeth o ran darparu'r math cywir o gartrefi o ansawdd a'r gefnogaeth fwyaf priodol i ddiwallu anghenion ein preswylwyr o ran tai."