Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygu Strategaeth Gaffael

Published: 24/10/2019

Mae Cyngor Sir y Fflint ar fin adolygu ei Strategaeth Gaffael yng nghyfarfod y Cabinet ar 22 Hydref.

Mae’r Cyngor yn gwario oddeutu £198 miliwn y flwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau ac adeiladu.  Er bod y cyngor eisiau ansawdd da a gwerth am arian gan gontractwyr o hyd, gall gyflawni nodau ehangach drwy sut y mae’n cyfeirio’r gwariant hwnnw.  Mae’r Strategaeth Gaffael yn nodi’r nodau ychwanegol hynny y mae’n bwriadu eu cyflawni yn ogystal â gosod targedau perfformiad y Tîm Caffael, a rennir gyda Cyngor Sir Ddinbych.

Mae diwygiadau arfaethedig i'r strategaeth yn gosod mwy o bwyslais ar brynu'n lleol, o fewn Sir y Fflint ei hun a'r ardal ehangach o fewn Gogledd Cymru a Chynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy, fel bod mwy o’r gwariant yn mynd yn ôl i’r economi leol a’r busnesau sy'n cyflogi preswylwyr Sir y Fflint.  Mae’n gwneud cysylltiadau gyda pholisïau ehangach a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar sicrhau nad yw ei gadwyn gyflenwi yn cefnogi ymarfer anfoesol, a’r gofyn bod contractwyr yn “rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned" drwy ei bolisi gwerth cymdeithasol.

Mae’r strategaeth arfaethedig yn nodi sut bydd y Cyngor yn dechrau cyflawni ei nod o fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Bydd cyfran helaeth o ôl troed carbon y Cyngor yn cael ei gynhyrchu gan y nwyddau a’r gwasanaethau y mae’n ei brynu, felly yn y dyfodol bydd yn gofyn i’w gontractwyr weithio i leihau eu hallyriadau carbon eu hunain.

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau:

“Mae’n bwysig bos Sir y Fflint yn gwario ei arian mewn ffordd sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo ei werthoedd a’i nodau. 

“Mae’r Cyngor eisiau adeiladu economi leol gref, lle mae’r gweithwyr sy’n darparu gwasanaethau ar ran y Cyngor yn cael eu trin yn dda, a lle nad yw’r nwyddau a’r gwasanaethau y mae’n ei brynu'n niweidio’r amgylchedd neu’n cyfrannu at gynhesu byd-eang.  Mae’r diwygiadau i’r Strategaeth Gaffael hon yn ategu’r ymrwymiadau hynny a bydd yn helpu i’w gweithredu.”