Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Polisi torri glasweelt

Published: 17/04/2015

Yn ei gyfarfod ddydd Mawrth (21 Ebrill) bydd Cabinet y Cyngor yn trafod polisi torri glaswellt y Cyngor Sir. Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb cyfreithiol i reoli’r Rhwydwaith Priffyrdd a chadw llwybrau ar agor a sicrhau ei bod yn ddiogel i ddefnyddwyr. Fel rhan o nifer o fesurau sy’n cael eu cyflwyno gan y Cyngor i sicrhau arbedion sylweddol yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, mae’n ystyried diwygio’r polisi hwn. O dan y polisi newydd, ni fydd y safonau presennol ar gyfer torri glaswellt ar ymyl ffyrdd trefol yn newid. Mewn ardaloedd gwledig, bydd y Cyngor yn parhau i dorri glaswellt bedair gwaith y flwyddyn ar leiniau gwelededd. Mae’r newidiadau yn y polisi’n ymwneud â lleiniau ymyl ffyrdd gwledig: - Bydd lleiniau ymyl ffyrdd gwledig, nad ydynt yn leiniau gwelediad, yn cael eu torri unwaith, yn lle dwywaith y flwyddyn (bwriedir gwneud hyn ym mis Mehefin, gan ddibynnu ar y tywydd). Bydd y Cyngor yn torri holl leiniau yml prif ffyrdd, ffyrdd nad ydynt yn brif ffyrd a ffyrdd annosbarthedig, lled un ystod, unwaith y flwyddyn yn lle dwywaith y flwyddyn. - Mewn ardaloedd gwledig, bydd y lleiniau’n cael eu torri hyd at y terfyn bob pedair blynedd yn lle tair i reoli chwyn a glasbrennau sy’n hadu eu hunain. Mae cynlluniau hefyd i weld beth fyddai’r gost o ddarparu’r gwasanaeth yn allanol a chaffael y gwasanaeth mwyaf cost effeithiol. Disgwylir y bydd y newidiadau’n arbed £75,000 y flwyddyn. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Fel rhan o’r broses graffu, rydym wedi bod yn gweithio gyda chynghorwyr sir, tref a chymuned i drafod y newidiadau i’r polisi hwn. Roedd angen y newidiadau fel rhan o ymdrechion y Cyngor i arbed arian yn gyffredinol. Mae’r polisi terfynol wedi newid i adlewyrchu’r argymhellion a wnaed. Yn ogystal ag arbed arian, mae gadael i laswellt dyfu’n hirach yn rhoi hwb i bioamrywiaeth, mae glaswelltau a blodau gwyllt yn gallu blodeuo a hadu, gan creu banc hadau mwy amrywiol yn y pridd.”