Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Mwy o goed i Sir y Fflint

Published: 24/10/2019

Rydym ni rwan ar ein hail aeaf o blannu coed ar gyfer Sir y Fflint.

Mae’r gwaith plannu a’r coed wedi’u hariannu drwy gyllid grant gan Gyfoeth Naturiol Cymru i gynyddu’r brigdwf yn ein trefi sydd â’r ganran isaf o goed. Mae’r plannu yn rhan o brosiect i gyrraedd targedau Cynllun Coed a Choetiroedd Trefol Cyngor Sir y Fflint, sef cynyddu’r brigdwf trefol yn Sir y Fflint o 14.5% i 18% erbyn 2033.

Hwn yw’r cam olaf, yn dilyn polau piniwn, digwyddiadau ymgysylltu a sgyrsiau i gytuno ar safleoedd a chynlluniau plannu.  

Rydym ni’n falch iawn o allu gwella lleiniau a’n mannau gwyrdd. Mae coed a blodau gwyllt yn dda i fywyd gwyllt a phobl, a gall wneud gwahaniaeth go iawn i'r ffordd rydym ni’n defnyddio gofodau.

Meddai Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Mae’n braf gallu parhau â’r cynllun plannu coed yng Nghei Connah fel rhan o’n strategaeth coed trefol. Mae coed yn bwysig iawn i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd; maent yn amsugno llygryddion ac yn darparu ocsigen, yn creu cynefinoedd i adar a phryfaid, canopi a chysgod, ac maent yn ychwanegu amgylchedd mwy naturiol at ardaloedd trefol gan roi'r ymdeimlad o les. 

“Mae graddfa’r clefyd coed ynn yn ddifrodus ac wedi effeithio ar filoedd o goed yn Sir y Fflint, felly mae'n fwy pwysig fyth ein bod ni’n plannu amrywiaeth o rywogaethau newydd yn ein sir.” 

Plannwyd y coed mewn tri lleoliad ar Ffordd yr Wyddgrug yr wythnos hon, wrth ymyl Machynlleth Way, Wharfdale Avenue a Clivedon Road. Roedd y coed yn cynnwys coed pisgwydd, lliwefr, derw a choed cyll. Dewiswyd y coed hyn oherwydd eu harddwch tymhorol a’u cadernid, ac nad ydynt yn gofyn am lawer o waith cynnal a chadw.  

Meddai’r Cynghorydd Ian Dunbar, Aelod Ward: 

“Rydym yn falch o weld bod y coed eisoes yn cael effaith, ac rydym ni’n edrych ymlaen at weld y coed yn aeddfedu a mwynhau’r manteision y deuant i’r gymuned.”

 

tree planting CQ.jpg

Llun: Tîm Cadwraeth, gwirfoddolwyr, y Cynghr. Andy Dunbobbin, Paul Shotton, Peter Davies (Is-Gadeirydd Cyngor Tref Cei Connah), Ian Smith (Cadeirydd Cyngor Tref Cei Connah) ac Ian Dunbar