Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mwy o blannu ar draws y sir

Published: 28/10/2019

CQ1.jpgMae Cyngor Sir y Fflint wedi creu ardal ar gyfer bioamrywiaeth yng Nghei Connah.

Mae ein gwirfoddolwyr Iard Gefn, Groundwork, Swyddogion Cefn Gwlad Sir y Fflint Sarah Slater a Steve Lewis, gyda chymorth y Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad, wedi tynnu’r glaswellt amwynder ac wedi plannu cymysgedd o fylbiau gwanwyn lliwgar o dan garped o laswellt blodau gwyllt. Gobeithio bydd blodau yno yn y gwanwyn tan ddiwedd yr haf, gan greu ardal liwgar o ddiddordeb i drigolion, yn ogystal â chynefin hollbwysig i wenyn, gloÿnnod byw a phryfaid.

CQ2.jpgDywedodd y Cyng. Thomas: 

“Roedd yn wych gweithio gyda gwirfoddolwyr a swyddogion i greu ardal ar gyfer bioamrywiaeth, yn hytrach na glaswellt amwynder yn swyddfeydd dinesig yn un o’n trefi. Drwy dynnu’r glaswellt a rhoi glaswellt blodau gwyllt, mae gwell siawns i’r blodau gwyllt lwyddo a ffynnu heb orfod defnyddio plaleiddiaid, a bydd y bylbiau yn dangos lliw yn gynnar wrth iddynt dyfu. Bydd angen rhaglen reoli gwahanol ar gyfer torri gwair, wrth dorri’r gwair unwaith ar ddiwedd yr haf. Bydd angen cael gwared â’r tocion er mwyn eu rhwystro rhag gwrteithio’r pridd 

 “Gobeithiwn wneud hyn mewn ardaloedd eraill yn y sir, gan weithio gyda chynghorau tref a chymuned a gwirfoddolwyr, gan fod angen rheolaeth ofalus er mwyn cynnal a rhwystro’r glaswellt a’r chwyn rhag dod yn ôl a chymryd drosodd unwaith eto heb ddefnyddio plaleiddiaid niweidiol.”

 

Buckley Summer 2018.jpgBuckley Cut and collect 2 Oct 2019.jpgMewn ymdrech gynyddol i wella amrywiaeth y blodau gwyllt ar safleoedd eraill a reolir gan y cyngor, rydym hefyd wedi bod yn gadael i’r glaswellt dyfu, a thorri a chasglu’r glaswellt yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Mae’r lluniau yn dangos safle ym Mwcle, sydd wedi cael ei adael i dyfu gan dorri llwybrau cerdded. Mae’r adborth gan y gymuned leol wedi bod yn gadarnhaol gyda mwy o infertebratau a blodau gwyllt ar y safle. 

 

County Hall Coronation Meadow Summer 2019.jpgMae Dôl y Coroni yn Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug wedi bod dan reolaeth cadwraeth am dros 5 mlynedd, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.