Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gweinidog Llywodraeth Cymru yn agor Cynllun Gofal Ychwanegol sydd wedi ennill Gwobrau yn Swyddogol 

Published: 05/11/2019

Daeth Hannah Blythyn AC a Dirprwy Weinidog dros Dai a Llywodraeth Leol i agor Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Llys Raddington heddiw (1 Tachwedd) – sef tai byw'n annibynnol arloesol i bobl hyn yng nghanol Fflint, Gogledd Cymru. 

Cymdeithas Dai ClwydAlyn sydd yn berchen ar y datblygiad £10 miliwn, sydd yn elfen allweddol o waith adfywio canol tref y Fflint, a chaiff ei reoli mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint. 

Cafodd Ms Blythyn ei thywys o amgylch Llys Raddington sydd yn cynnwys 73 o fflatiau hunangynhwysol gydag un a dwy ystafell wely, bwyty, lolfa ystafell haul ar y llawr uchaf yn edrych allan dros y dref, yn ogystal ag ystafell wely i westeion ac ystafelloedd ymolchi â chymorth.

Caiff preswylwyr eu cefnogi gan dîm o weithwyr gofal proffesiynol sydd ar y safle bob awr o’r dydd, ac sydd yn cefnogi pobl sydd yn byw gyda dementia. 

Cafodd y datblygiad sydd â balconïau a gardd hyfryd ei ariannu gan ClwydAlun, ynghyd â chymorth grant amhrisiadwy gan Lywodraeth Cymru, a sicrhawyd mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint. 

Dechreuodd y gwaith ar y datblygiad, a ddyluniwyd gan Benseiri John McCall ac a adeiladwyd gan Anwyl Construction yn 2016, ac fe symudodd y preswylwyr cyntaf i mewn ym mis Tachwedd 2018.

Yn ôl y preswylwyr mae ganddynt ymdeimlad o fod yn rhan o gymuned tra’n gallu cadw eu preifatrwydd a’u hannibyniaeth eu hunain. “Dwi’n hoffi’r teimlad o ddiogelwch yma a bod cymorth wrth law pan fo’i angen,” meddai Jacqueline Jones a symudodd i Llys Raddington ar y diwrnod yr agorodd y cynllun.

“Mae’r lleoliad yn ardderchog gan ei bod hi’n hawdd picio mewn i’r dref. Merch leol o’r Fflint ydw i ac mae parhau i fod yn rhan o’r gymuned yn bwysig iawn i mi.”

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint a groesawodd y Dirprwy Weinidog:

“Mae ailddatblygu ac adfywio’r Fflint wedi bod yn gyfle gwych i wella canol ein tref ac mae’r cynllun gofal ychwanegol modern yma’n goron ar y cwbl.  Mae’n ardderchog ac mae pob preswylydd dwi wedi siarad â nhw yn hapus iawn yma.  Diolch i bawb sy'n gysylltiedig.”

Dywedodd Stephen Porter, Cadeirydd ClwydAlun a groesawodd Hannah Blythyn i’r datblygiad: “Mae’r cynllun wedi bod yn rhan hanfodol o drawsnewid y Fflint ers y dechrau. Mae’n leoliad perffaith ar gyfer y tai arbenigol yma i bobl hyn, gan alluogi iddynt fyw’n annibynnol gyda mynediad at holl gyfleusterau canol y dref sydd ar stepen eu drws, gyda thawelwch meddwl y gefnogaeth broffesiynol y mae’r awdurdod lleol yn ei ddarparu. 

“Mae’r ffaith fod y cyfleuster gwych yma’n bosibl oherwydd cydweithio effeithiol iawn yn drawiadol iawn. 

“Yn ogystal â darparu lle gwych i’n preswylwyr fyw, mae’r datblygiad wedi rhoi hwb i’r ardal leol, gan greu swyddi ac annog ymgysylltu gydag ysgolion lleol, cymdeithasau celf a busnesau lleol. 

Dywedodd Clare Budden, Prif Weithredwr ClwydAlun: “Rydym ni’n arbennig o falch o gynllun tai gofal ychwanegol Llys Raddington ac mae wedi bod yn anrhydedd gweld y gwahaniaeth y mae’r fenter wedi’i wneud i iechyd a lles ein preswylwyr a’u teuluoedd. 

“Mae’r fflatiau hunangynhwysol yn caniatáu i denantiaid fod mor breifat neu mor gymdeithasol ag y maent yn dymuno er mwyn iddynt allu byw ag urddas ac annibyniaeth tra’n cael y gefnogaeth unigol maent ei angen.”

Dywedodd Ms Blythyn: “Mae wedi bod yn bleser agor Llys Raddington yn swyddogol gan alluogi preswylwyr i gadw eu hannibyniaeth tra’n darparu tîm o weithwyr proffesiynol iddynt bob awr o’r dydd.  Mae’n gyfleuster ardderchog sydd yn bosibl trwy Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ac mae’n dangos ein bod yn cyflawni ein hymrwymiad i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy.” 

 

       Hannah Blythyn-52.jpg

 

Hannah Blythyn-55.jpg

Hannah Blythyn-40.jpg