Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ailwynebu Cerbytffordd yr A549 Ffordd Caer, Bwcle 

Published: 11/11/2019

Mae Adran Strydwedd a Chludiant, Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi fod arian wedi’i ddiogelu i gynnal gwaith ail-wynebu ar y ffordd gerbydau a gwaith cysylltiedig ar yr A549 Chester Road, Bwcle o'r gyffordd â Brook Street yn cychwyn ddydd Mercher 13 Tachwedd 2019. Mae’r gallu i wneud y gwaith hwn yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar y tywydd, fodd bynnag bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i gwblhau’r gwaith ar neu cyn dydd Mercher 27 Tachwedd.

Bydd y ffordd ar gau i sicrhau diogelwch y gweithlu sy’n ymwneud â’r gweithrediad hwn a defnyddwyr y briffordd. 

Bydd y llwybr amgen ar gyfer traffig ar hyd y B5127 Ffordd Lerpwl, yr A55 (T) i gylchfan Dobshill a’r A549 Dirty Mile - bydd yr holl ffyrdd amgen wedi eu harwyddo’n glir. 

Bydd modd cael mynediad at eiddo a busnesau unigol o hyd, er y gallai fod peth oedi.

Hoffai Cyngor Sir y Fflint a’n contractwr Roadway Civil Engineering Cyf ymddiheuro am unrhyw oedi ac amhariad a allai gael ei achosi yn sgil y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn a byddwn yn cwblhau’r gwaith mor sydyn â phosibl.