Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun y Cyngor – adroddiad canol blwyddyn

Published: 15/11/2019

Bydd aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn derbyn adroddiad canol blwyddyn a fydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd y Cyngor pan fyddant yn cyfarfod ddydd Mawrth 19 Tachwedd.

Bob blwyddyn mae'r Cyngor yn amlinellu ei flaenoriaethau yng Nghynllun y Cyngor, gan weithio ar dargedau cyffredinol i ddatblygu gwasanaethau a safonau byw ledled y sir.

Mae adroddiad monitro dydd Mawrth yn darparu asesiad canol blwyddyn ac yn dangos a yw'r Cyngor ar y trywydd iawn o ran cyflawni'r effeithiau a ddymunir.

Er gwaethaf cyfyngiadau ariannol parhaus mae'r uchafbwyntiau a gyflawnwyd hyd yma yn cynnwys:

  • Agor y ganolfan anableddau dysgu newydd, Hwb Cyfle, ar amser ac o fewn y gyllideb.
  • Mae ein cynllun gofal ychwanegol newydd yn Nhreffynnon, Plas Yr Ywen, ar y trywydd iawn i agor yn Chwefror 2020.
  • Mae’r estyniad i Marleyfield House ym Mwcle ar y trywydd iawn ac mae disgwyl i'r adeiladu ddechrau.
  • Rydym ar y trywydd iawn o ran y targed i sicrhau fod ein stoc dai yn cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2020.
  • Rydym ar y trywydd iawn o ran y targed i ddarparu 79 o unedau cymdeithasol newydd o ran llety eleni.
  • Yn y broses o ffurfio menter fwyd gymdeithasol newydd gyda'n partneriaid sef Clwyd Alyn a Can Cook.
  • 647 o aelwydydd wedi eu cefnogi drwy raglen Cartrefi Iach Pobl Iach.
  • 1298 o blant wedi cael budd o’r cynnig gofal plant.
  • Rydym wedi cefnogi 21 menter gymdeithasol gyda datblygu busnes, digwyddiadau rhwydwaith menter gymdeithasol a gwobrau busnes allanol.
  • Mae gennym gyfradd ailgylchu o 81.5% ar gyfartaledd ar draws yr holl Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
  • Rydym wedi helpu 1246 o bobl 65 oed a hyn i fyw’n annibynnol gartref.
  • Rydym wedi recriwtio 9 o deuluoedd maeth i helpu i gefnogi plant a phobl ifanc sydd mewn perygl.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett:

"Mae'r perfformiad yn erbyn ein blaenoriaethau yn dystiolaeth dda o ba mor dda mae'r Cyngor yn cyflawni o ran y gwasanaethau sydd bwysicaf i'n cymunedau. Er gwaetha'r pwysau economaidd digynsail yr ydym yn ei wynebu ar hyn o bryd, mae Sir y Fflint yn parhau yn uchelgeisiol ac arloesol.”