Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhaglen Gyfalaf 2021/22 – 2022/23

Published: 15/11/2019

Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo adroddiad ar Raglen Gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2020/21- – 2022/23 pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth 19 Tachwedd. 

Mae Rhaglen Gyfalaf y Cyngor yn uchelgeisiol ac mae’r adroddiad cynhwysfawr yn dangos yr uchelgais hwn drwy edrych ar fuddsoddiad mewn asedau yn y dyfodol yn yr hirdymor er mwyn gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus o safon uchel sy’n werth am arian.   Mae’r buddsoddiadau cyfalaf arfaethedig a amlinellir yn yr adroddiad yn cyd-fynd yn agos â chynlluniau gwasanaethau a Chynllun y Cyngor.

Mae mwyafrif y rhaglen wedi cael ei hariannu gan dderbyniadau cyfalaf a grantiau, ond mae creu derbyniadau cyfalaf sylweddol yn dod yn fwy heriol, wrth i asedau sydd gan y Cyngor ar gyfer eu dosbarthu, leihau. Byddwn yn parhau i ganfod ffynonellau eraill o arian, megis grantiau penodol a chyfraniadau refeniw, ond, byddwn angen defnyddio benthyca darbodus i ariannu mwy o’r rhaglen wrth symud ymlaen. 

Mae rhai o’r buddsoddiadau statudol allweddol wedi’u hamlinellu isod:

  • Mae Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl sy’n darparu addasiadau fel bod trigolion yn gallu parhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, a gweithio mewn partneriaeth â Gofal a Thrwsio er mwyn cefnogi trigolion diamddiffyn, yn derbyn dyraniad o £1.7 miliwn y flwyddyn.
  • Mae dyraniad blynyddol o £250,000 i addasu ysgolion ar gyfer plant gydag anableddau, er mwyn cefnogi a chreu amgylcheddau ysgol sy’n fwy cynhwysol.
  • Uwchraddio toiledau mewn ysgolion - £100,000 y flwyddyn.
  • £200,000 i uwchraddio systemau awyru mewn ceginau ysgolion.
  • £200,000 ar gyfer gwaith archwiliadau tân mewn ysgolion y mae’r Awdurdod Lleol yn gyfrifol amdanynt.
  • £600,000 i ariannu’r Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd, sy’n cynnwys ail-wynebu rhwydwaith priffyrdd dosbarthedig, rhaglen amnewid colofnau goleuadau stryd a chynnal a chadw strwythurol.
  • Mannau chwarae a chaeau chwaraeon synthetig – mae dyraniad blynyddol o £200,000 yn parhau er mwyn ariannu cyfarpar chwarae newydd, uwchraddio mannau chwarae ac amnewid arwyneb caeau chwaraeon synthetig, sydd mewn cyflwr gwael.
  • Bydd rhaglen barhaus ar gyfer uwchraddio isadeiledd TG yn parhau i sicrhau bod parhad busnes a gwasanaeth yn cael ei gynnal.  Mae rhain yn cynnwys seiberddiogelwch (£55,000), technolegau storio (£200,000) a thechnolegau gweinyddol (£150,000).

Byddwn yn parhau i fuddsoddi’n sylweddol yn ein hasedau cyfredol, gan gynnwys:

  • Ysgol Uwchradd Castell Alun, Yr Hob £207,000 2020/21.
  • Estyniad i Gartref Preswyl Marleyfield – cyfanswm o £1.381 miliwn dros 2 flynedd.
  • Ailddatblygu Theatr Clwyd - £500,000 yn 2020/21.

Mae’r cynlluniau canlynol a gaiff eu hariannu drwy fenthyca, wedi cael eu hystyried yn ofalus oherwydd effeithiau hirdymor ar gyllideb refeniw’r Cyngor:

  • Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif – mae’r cynnig hwn wedi ei gynnwys mewn datganiad i’r wasg ar wahân, gan fod yr adroddiad hefyd yn mynd i’r Cabinet.
  • Model Teulu Mockingbird – yn dyblygu teulu estynedig ac yn grwpio gofalwyr maeth o 6-10 o gartrefi maeth sy’n cael eu cefnogi gan ofalwr maeth canolog.
  • Benthyciad arall i NEW Homes sy’n adeiladu cynlluniau tai fforddiadwy.

Dywedodd Prif Swyddog Tai ac Asedau Cyngor Sir y Fflint, Neal Cockerton: 

“Er bod y Cyngor yn wynebu her ariannol ddigynsail, rydym wedi gweithio’n galed i nodi rhaglen gyfalaf glir ac uchelgeisiol ar gyfer isadeiledd ac ysgolion. Rwy’n falch ein bod yn gallu cyflawni gwelliannau i’n rhwydwaith priffyrdd a pharhau i fuddsoddi yn ein hysgolion a chyfleusterau chwaraeon, yn ogystal â chefnogi a diogelu ein trigolion mwyaf diamddiffyn.”