Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dod âr Cyngor atoch chi

Published: 17/04/2015

Dydd Mawrth, 21 Ebrill, bydd Cabinet y Cyngor yn cyfarfod i ystyried dechrau gweddarlledu cyfarfodydd y Cyngor Sir a’r Pwyllgor Rheoli Cynllunio a Datblygu, a hynny ar ôl treialu’r dechnoleg yn llwyddiannus. Un o brif fanteision gweddarlledu yw ei fod yn caniatáu i’r cyfarfod gael ei wylio gan fwy o bobl nag a allai fod yn yr ystafell ac yn caniatáu iddynt wylio’r cyfarfodydd ar adeg sy’n gyfleus iddyn nhw. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor, Mae nifer o Gynghorau ledled y DU wedi cyflwyno system o weddarlledu eu cyfarfodydd, a hynny’n llwyddiannus, ac rwy’n falch iawn fod y Cyngor hwn hefyd yn cael cyfle i fanteisio ar y dechnoleg a hyrwyddo ymgysylltiad a thryloywder. Mae’r dechnoleg hon yn cynnig ffordd arall i’r cyhoedd ymgysylltu’n agosach â’r broses ddemocrataidd ac i sicrhau bod busnes llywodraeth leol yn fwy tryloyw. Mae’n golygu hefyd y gall y cyhoedd graffu’n fanylach ar farn, gweithredoedd a safbwyntiau Cynghorwyr lleol.