Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gogledd Cymru Gyda’i Gilydd

Published: 15/11/2019

Bydd aelodau Cabinet Sir y Fflint yn cael cais i gefnogi'r Rhaglen Anableddau Dysgu "Gogledd Cymru Gyda’i Gilydd” pan fyddant yn cyfarfod ar 19 Tachwedd.

Llywodraeth Cymru sydd wedi ariannu "Gogledd Cymru Gyda'i Gilydd; Gwasanaethau Di-dor ar gyfer pobl gydag Anableddau Dysgu", ac mae'n cael ei ddatblygu gydag unigolion gydag anableddau dysgu a'u teuluoedd ac mae’n cynnwys y chwe awdurdod yng Ngogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r trydydd sector ac mae'n cael ei arwain gan Sir y Fflint.

Bwriad y prosiect yw sicrhau y bydd gan bobl ag anableddau dysgu well ansawdd bywyd; gan fyw'n lleol lle byddant yn teimlo’n ‘ddiogel ac iach’, lle maent yn cael eu gwerthfawrogi a’u cynnwys yn eu cymunedau a lle mae ganddynt fynediad at gymorth personol effeithiol sy’n hyrwyddo annibyniaeth, dewis a rheolaeth.  

Dywedodd Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint, Neil Ayling:

“Mae yna gynnydd cadarnhaol go iawn wedi bod yn y cyfnod cychwynnol hwn o’r rhaglen. Mae yna arferion arloesol i'w canfod yng Ngogledd Cymru a gellir rhannu hyn a’i gyflwyno ar draws y rhanbarth. Bydd y prosiect yn sicrhau y bydd hyn yn digwydd dros gam nesaf y prosiect hyd at Ragfyr 2020.”

Mae adborth cychwynnol yn dangos fod angen codi proffil cyffredinol a hawliau pobl sydd ag anableddau dysgu o fewn Gogledd Cymru ac mae angen i ni wella meysydd penodol fel cyfleoedd gwaith go iawn i bobl anabl a rhannu adnoddau'n effeithiol i wella ansawdd gwasanaeth. 

Ychwanegodd Mr Ayling:

“Mae gwaith yn mynd yn ei flaen yn gyflym ar draws y rhanbarth ac mae arwyddion cynnar yn dangos y bydd canlyniadau cadarnhaol iawn drwy Ogledd Cymru o ganlyniad i'r ymagwedd hon o bartneriaeth."