Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae archifau Cymru yn gartref i gyfoeth o drysorau – ydych chi’n barod i archwilio?

Published: 18/11/2019

Mae archifau ledled Cymru yn paratoi at ddathlu ac arddangos eu gwasanaethau a chasgliadau ar gyfer wythnos Archwilio Eich Archifau, sydd eleni’n cael ei gynnal rhwng 23 a 30 o Dachwedd.

Mae’r ymgyrch wythnos yn annog pobl i ddarganfod y storïau, ffeithiau, lleoedd a’r bobl sydd wrth wraidd cymunedau yng Nghymru. Fel rhan o’r dathliadau, bydd llawer o archifdai yn cynnal gweithgareddau arbennig ac yn croesawu’r cyhoedd i brofi, deall ac ymfalchïo yng nghyfoeth ac amrywiaeth y deunyddiau sydd ganddynt.

Bydd Llysgenhadon Archif arbennig, sydd wedi gwneud defnydd personol a phroffesiynol o gasgliadau a gwasanaethau mewn archifdai ar draws Cymru, yn lansio’r wyl ym Mandstand Aberystwyth ar nos Lun 25 Tachwedd.

Mae Colin Sheady, gwirfoddolwr yn Archifdy Sir y Fflint a Llysgennad Archif wedi cynorthwyo gyda nifer o brosiectau yn ddiweddar, gan gynnwys mynegeio ceisiadau Cynllunio Sir y Fflint. Dywed Colin “mae'r gwaith rwy'n ei wneud yn hynod o werth chweil i mi. Rwy’n cael darganfod enwau teuluoedd a fyddai wedi eu anghofio fel arall, mae digwyddiadau arwyddocaol a helpodd i siapio’r dirwedd ar gael yn rhwydd ar flaenau fy mysedd, ac mae cynnydd a chwymp diwydiannau yn digwydd o flaen fy llygaid.”

Fel rhan o Archwiliwch Eich Archifau, bydd nifer o ddigwyddiadau rhad ac am ddim yn cael eu cynnal mewn archifau ledled Cymru – o sgyrsiau a helfeydd trysor, i arddangosiadau ffilm a gweithdai creadigol. Eleni mae Archifdy Sir y Fflint yn cymryd rhan yn ochr cyfryngau cymdeithasol yr ymgyrch trwy godi ymwybyddiaeth o archifau trwy ymuno yn yr ymgyrch # ddyddiol. Cymerwch olwg ar dudalen Facebook Archifdy Sir y Fflint (https://www.facebook.com/FlintshireRecordOffice) bob dydd rhwng 23 Tachwedd 23 a Rhagfyr 1 i weld ffotograff gwahanol i'r archifau.

Mae archifdai Cymru yn gwarchod ystod eang o eitemau, yn amrywio o flew dynol i ryseitiau teuluol, llythyrau caru i hanesion llafar. Bydd llawer o'r gwrthrychau rhyfeddol yma yn cael eu hamlygu yn ystod wythnos Archwilio Eich Archif mewn ymgyrch ddigidol fywiog.

Dywedodd Vicky Jones, Rheolwr Prosiect a Hyfforddiant Archifau a Chofnodion Cymru: 

“Nod Archwiliwch Eich Archifau yw ysbrydoli pobl i ddysgu mwy am rai o’r storïau treftadaeth anhygoel sydd ar eu trothwy, a hynny drwy gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau. Byddwn yn eich annog i ymchwilio i’r hyn sy’n digwydd yn eich ardal leol er mwyn i chi ddechrau archwilio a darganfod!”

I ddechrau archwilio ewch i'ch gwasanaeth archif lleol neu archifau.cymru

Er mwyn cael mwy o wybodaeth, cyfweliadau a lluniau cysylltwch ag: Claire Harrington, Y Prif Archifydd, Archifdy Sir y Fflint, archives@flintshire.gov.uk    #ArchwilioArchifau