Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cadw pethau’n lleol

Published: 20/11/2019

Mae North East Wales (NEW) Housing Ltd yn falch o gyhoeddi bod contract atgyweiriadau, a chynnal a chadw wedi cael ei ddyfarnu i Wasanaethau Eiddo For You (FYPS) yn dilyn ymarfer tendro cystadleuol.  

Mae North East Wales (NEW) Homes Ltd yn gwmni preifat a sefydlwyd gan Gyngor Sir y Fflint i ddarparu tai fforddiadwy i’w rhentu, ac mae FYPS yn fenter gymdeithasol, yn ogystal â bod yn adain Gofal a Thrwsio Gogledd Ddwyrain Cymru sy’n darparu gwasanaethau cymorth cymunedol i bobl ddiamddiffyn.

Mae cynllun twf uchelgeisiol North East Wales (NEW) Homes Ltd i adeiladu mwy o dai fforddiadwy newydd wedi dechrau, ac mae’r amser yn iawn i sicrhau bod trefniadau ar waith ar gyfer gwneud atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw i eiddo presennol, yn ogystal â’r rhai newydd. 

Fel sefydliad a sefydlwyd yn ddiweddar, mae FYPS yn croesawu’r contract newydd, ac maent yn edrych ymlaen at weithio gyda North East Wales (NEW) Homes Ltd. Mae FYPS yn cyflogi tîm bach, a phan mae angen cynnal gwaith arbenigol megis gwiriad diogelwch nwy, defnyddir is-gontractwyr lleol sy'n helpu creu buddion cymunedol, megis cyflogaeth lleol a gwariant yn lleol. 

Dywedodd Paul Humphries, Cadeirydd Bwrdd North East Wales (NEW) Homes Ltd:

“Rydym yn falch iawn o benodi FYPS i ddarparu gwasanaeth atgyweiriadau a chynnal a chadw i'n heiddo North East Wales (NEW) Homes Ltd.  Dyma gam pwysig i’r cwmni, ac mae'n gosod y sylfaen ar gyfer partneriaeth gadarn gyda menter gymdeithasol lleol, gyda’r potensial i dyfu ochr yn ochr gyda North East Wales (NEW) Homes Ltd.”

Dywedodd Martin Burger, Rheolwr Gyfarwyddwr FYPS:

“Mae ennill y contract newydd hwn yn hwb mawr i FYPS, ac oherwydd bod ein gweledigaeth ar gyfer twf yn cyd-fynd â chynlluniau North East Wales (NEW) Homes Ltd, rwy’n rhagweld cyfleoedd gwych ar y gweill, wrth i ni dyfu gyda’n gilydd.”