Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Nodyn Atgoffa i Gofrestru ar gyfer Pleidleisio

Published: 25/11/2019

Dyma nodyn i atgoffa trigolion lleol bod ganddynt hyd at hanner nos ddydd Mawrth 26 Tachwedd i gofrestru ar gyfer pleidleisio, a hyd at 5.00pm yr un diwrnod, i ymgeisio am bleidlais drwy’r post, ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol sydd ar y gweill. Diwrnod pleidleisio ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol yw dydd Iau, 12 Rhagfyr.

Mae gan drigolion hyd at 5.00pm ddydd Mercher, 4 Rhagfyr i ymgeisio am bleidlais drwy ddirprwy – er mwyn i rywun arall bleidleisio ar eu rhan – fel ffordd arall o bleidleisio.

Dywedodd Colin Everett, Swyddog Canlyniadau Gweithredol:

 “Mae Cyngor Sir y Fflint wedi anfon cardiau pleidleisio i etholwyr yn ddiweddar. Os nad ydych wedi derbyn cerdyn pleidleisio, cysylltwch â’n Swyddfa Etholiadau ar 01352 702412 neu anfonwch e-bost at register@flintshire.gov.uk i wirio os ydych wedi cofrestru ar gyfer pleidleisio. Os  nad ydych wedi cofrestru eisoes, ewch i’r system ar-lein genedlaethol http://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.

 “Mae’r Tîm Etholiadau yn gallu cynorthwyo preswylwyr gydag ymholiadau. Os ydych eisoes wedi ymateb i’r Canfasio Blynyddol i gadarnhau neu i ddiweddaru eich manylion a’ch bod wedi cofrestru’n unigol drwy ddarparu eich dyddiad geni a Rhif Yswiriant Gwladol (os nad ydych wedi cofrestru eisoes) yna nid oes angen ailgofrestru.  Dylech ond cysylltu â’r Tim Etholiadau os ydych yn dal angen cofrestru yn unig.”