Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Newidiadau ar y gweill yn y Swyddfa Gofrestru

Published: 27/11/2019

Mae Swyddfa Gofrestru Sir y Fflint yn paratoi i gyflwyno Partneriaethau Sifil ar gyfer cyplau lle nad yw’r ddau o’r un rhyw.

Fe fydd y rheoliadau sy’n caniatáu Partneriaethau Sifil i gyplau lle nad yw’r ddau o'r un rhyw yn dod i rym ar 2 Rhagfyr ac mae hyn yn golygu mai dyma'r dyddiad cyntaf y gall cyplau roi Hysbysiad o Bartneriaeth Sifil.   

Gan fod rhaid cael Hysbysiad o 28 diwrnod cyn y seremoni, fe allai'r Bartneriaeth Sifil gyntaf rhwng cwpwl lle nad yw'r ddau o'r un rhyw ddigwydd ar 31 Rhagfyr eleni. 

Mae Sir y Fflint yn ffodus yn y ffaith fod Swyddfa Gofrestru’r Sir wedi ei lleoli mewn eiddo rhestredig hardd – Neuadd Llwynegrin yn Yr Wyddgrug. Mae gan y lleoliad godidog hwn y potensial i gynnig amrediad o wasanaethau i gyd-fynd â hyn, fel cynnig diodydd a chanapés cyn neu ar ôl seremoni. 

Yn ogystal â phriodasau a phartneriaethau sifil, mae'r gwasanaeth cofrestru hefyd yn cofrestru genedigaethau a marwolaethau, trwyddedu lleoliadau ar gyfer seremonïau sifil, gwarchod cofnodion archif, cyflwyno copi o dystysgrifau a chynnal seremonïau dinasyddiaeth a dathlu fel adnewyddu addunedau priodas ac enwi babanod. 

Dywedodd Prif Swyddog Llywodraethu Cyngor Sir y Fflint, Gareth Owens:

“Mae’r gwasanaeth cofrestru yn gallu cynnig mathau amrywiol o seremonïau dathlu wedi eu personoli i ddiwallu gofynion cwsmeriaid."

Adeiladwyd Neuadd Llwynegrin gan Thomas Jones, pensaer lleol a syrfëwr y sir, ac fe’i cwblhawyd ym 1830. Roedd yn gartref gwledig tawel tan 1948 pan brynwyd y Neuadd a’r tir o’i amgylch gan Gyngor Sir y Fflint. Mae’r Neuadd yn cadw awyrgylch cartref teuluol ac yn cadw cyfoeth o nodweddion y cyfnod, ac mae’n lleoliad perffaith ar gyfer pob achlysur.

Am wybodaeth am seremonïau yn Sir y Fflint cysylltwch â'r Swyddfa Gofrestru ar 01352 703333 neu Registrars@flintshire.gov.uk.