Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Oriau agor Cyngor Sir Y Fflint a rhifau cyswllt brys yn ystod y gwyliau

Published: 17/12/2019

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cau rhai o’i swyddfeydd dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

Bydd Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug a Thy Dewi Sant Ewlo yn cau am 5pm ddydd Mawrth, 24 Rhagfyr ac yn ail-agor ddydd Iau, 2 Ionawr 2020.

Bydd y Swyddfa Gofrestru, Neuadd Llwynegrin, yr Wyddgrug yn cau am 3.30pm, ddydd Mawrth, 24 Rhagfyr gyda llai o oriau gwasanaeth, nes 9.30am ddydd Iau, 2 Ionawr 2020, gan agor yn ôl yr angen i gofrestru genedigaethau, priodasau a marwolaethau. Gellir gwneud apwyntiadau drwy ffonio’r Swyddfa Gofrestru ar 01352 703333.

Ni fydd gwasanaethau hanfodol megis atgyweiriadau i dai, y gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau Strydwedd yn cael eu heffeithio ac yn parhau i gael eu darparu. Mae rhifau ar gyfer argyfwng fel y ganlyn:

Gwasanaethau tai, eiddo neu strydwedd: 01344 786590

Gwasanaethau Cymdeithasol: 0845 053 3116

Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu ym Mwcle, yr Wyddgrug a Chei Connah yn cau am 4:30pm ddydd Gwener, 20 Rhagfyr nes 9am ddydd Iau, Ionawr 2020.

Bydd Canolfan Treffynnon yn Cysylltu yn cau o 4:30pm ddydd Mawrth, 24 Rhagfyr nes 9am ddydd Iau, 2 Ionawr 2020.

Yn y Fflint, bydd y Ganolfan ar agor rhwng 9am a 4:30pm ddydd Mawrth, 24 Rhagfyr, dydd Gwener, 27 Rhagfyr a dydd Mawrth, 31 Rhagfyr.

Am wybodaeth ar lyfrgelloedd a chanolfannau hamdden, ewch i wefan Aura Cymru aura.cymru.

Mae’r wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor hefyd - siryfflint.gov.uk/AgoriadYNadolig2019.

 

Father Christmas A4 Welsh small.jpg