Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dileu treth fusnes

Published: 09/05/2014

Bydd cais i ddileu dyledion busnes dau sefydliad elusennol sydd wedi cael eu diddymu yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o’r Cabinet ddydd Mawrth (13 Mai). Rhyngddynt mae gan y ddau gwmni, sef Ymddiriedolaeth Elusennol Diogelwch y Cyhoedd a’r Life Foundation Trust ddyledion o bron i J400,000 i Gyngor Sir y Fflint mewn trethi busnes a rhaid i unrhyw ddileu dyledion goruwch J25,000 gael ei gymeradwyo gan y Cabinet. Yr oedd y ddau gwmni dan sylw wedi prydlesu eiddo ledled Cymru a Lloegr mewn cynllun i osgoi trethi busnes. Fel elusen gofrestredig, nid yw cwmni’n talu ond 20% o’r dreth fusnes lawn os ydynt yn defnyddio eiddo yn llwyr ac yn bennaf i ddibenion elusennol a phan nad yw landlordiaid yn gyfrifol am dalu trethi busnes ar eiddo gwag. Dangosodd ymchwiliad gan y Cyngor nad oedd y ddau gwmni dan sylw yn gwneud defnydd priodol o’r eiddo a brydleswyd a phenderfynwyd cymryd camau cyfreithiol. Yr oedd cyfanswm o 121 eiddo wedi’u prydlesu rhwng y ddau gwmni yn Sir y Fflint. Wrth gymryd y camau hyn yn y Llys yr oedd Sir y Fflint yn un o nifer fechan o gynghorau yn y DU a fu’n allweddol o ran sicrhau dyfarniadau yn yr Uchel Lys o blaid awdurdodau lleol, sydd bellach â’r hawl i hawlio’n ôl yr arian sy’n ddyledus. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Yr oedd hwn yn gynllun cenedlaethol i osgoi talu trethi a Sir y Fflint oedd un o’r cynghorau fu ar flaen y gad wrth gymryd camau cyfreithiol i geisio adennill y dreth fusnes a oedd yn ddyledus. Cafodd y cwmnïau eu gwneud yn fethdalwyr cyn y gallem weithredu dyfarniadaur llys a bellach maer siawns o adennill yr arian ar ran Llywodraeth Cymrun hynod gyfyngedig. “Pan fydd cwmni’n hawlio’r Rhyddhad Ardrethi Elusennol rhaid i’r eiddo gael eu defnyddio’n gyfan gwbl i ddibenion elusennol; oherwydd y camau a gymerwyd gan Sir y Fflint a chynghorau eraill, rydym wedi bod ar flaen y gad o ran rhoi terfyn ar y cynllun hwn i osgoi trethi ac yn y dyfodol bydd awdurdodau lleol yn gallu hawlio’r arian sy’n ddyledus yn ôl. Mae cynlluniau osgoi trethi yn awr yn achosi materion ehangach ar draws y DU ac er nad yw’r Cyngor wedi colli allan gan fod y trethi’n cael eu rhoi i Lywodraeth Cymru, mae’r golled yn un sylweddol i’r pwrs cyhoeddus.” Nodyn i olygyddion: Mae dyled yr Ymddiriedolaeth Elusennol Diogelwch y Cyhoedd yn J336,923. Mae dyled y Life Foundation Trust yn J60,732.