Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwarchodfa Natur Shotton yn cael ei hadfywio

Published: 29/04/2015

Cwblhawyd prosiect wyth mis i adfywio Gwarchodfa Natur Taliesin yn Shotton. Gan ddefnyddio dros £17,000 o arian y fenter Trefi Taclus, mae gwasanaeth cefn gwlad Sir y Fflint wedi gweithio ochr yn ochr ag Ysgol Ty Ffynnon, Coleg Cambria, Cadwch Gymrun Daclus, McDonalds a Groundwork i adfer y warchodfa natur. Mae’r holl lwybrau wedi cael arwyneb newydd, crëwyd llwybr a ramp newydd i Barc Gwepre, plannwyd 400 o fylbiau a choed ac mae hadau wediu gwasgaru ar ymylon y llwybr – dros ardal o 1,200 metr sgwâr. Roedd rhywogaethau hadau a wasgarwyd yn nap chwyn cyffredin, gludlys coch, gludlys gwyn, dim llygad y dydd llygadrwth, briallu, moron gwyllt, milddail, meillionen hopysaidd yn ogystal â chymysgedd blynyddol ar gyfer lliw ychwanegol. Mae pwyntiau mynediad a cherrig marciwr hefyd wediu gosod. Mae Trefi Taclus yn fenter Cadwch Gymrun Daclus a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gefnogir gan awdurdodau lleol i wella amwynder, hygyrchedd a bioamrywiaeth ardaloedd sydd wedi dadfeilio. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Hoffwn ddiolch ir holl ddisgyblion lleol, myfyrwyr, busnesau a gwirfoddolwyr sydd wedi rhoi eu hamser au cefnogaeth i’r prosiect cynaliadwy hwn sydd o fudd in hamgylchedd lleol. Diolch iddyn nhw a’r cyllid gan Drefi Taclus, mae Gwarchodfa Natur Taliesin yn edrych yn wych. Dywedodd Tim Johnson, Ceidwad Cefn Gwlad: “Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiant gwirioneddol. Mae yna deimlad ffres newydd i’r safle ac mae adborth gan aelodau or cyhoedd wedi bod yn anhygoel. Ychwanegodd yr aelod ward lleol y Cynghorydd Ann Minshull: “Da iawn i bawb syn cymryd rhan. Gydar gwanwyn ar ein gwarthaf, maen gyfle perffaith i bobl wneud y mwyaf or lle hyfryd hwn ac i fwynhau’r arddangosfa wych o flodau. Llun Maer placiau llechi bellach yn nodi’r fynedfa i Warchodfa Natur Taliesin: