Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Calendrau Adfent yn cael eu cyflwyno i’r Banc Bwyd

Published: 20/12/2019

Mae UNSAIN Sir y Fflint wedi cyd-drefnu casgliad llwyddiannus iawn o focsys bwyd ar gyfer Banc Bwyd Sir y Fflint.

Mae swyddogion Cyngor Sir y Fflint ynghyd â gweithwyr o Aura Cymru, Theatr Clwyd a Swyddfa Archwilio Cymru wedi dod at ei gilydd i gefnogi ymgyrch “calendr adfent tu chwith”.  Bydd hyn yn sicrhau bod silffoedd y Banc Bwyd gyda digon o stoc dros gyfnod prysur y Nadolig.

Mae’r Calendr Adfent Tu Chwith yn syniad syml a ffordd dda o gefnogi pobl sydd angen ychydig o gymorth ar adeg y Nadolig – drwy gyfrannu 30 eitem o fwyd i’r Banc Bwyd. Dywedodd Sarah Taylor, Ysgrifennydd Cangen UNSAIN Sir y Fflint:

“Rydym wedi cael ymateb gwych i'n hymgyrch.  Mae gweithwyr o bob adran Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn rhan o hwn ac wedi cyfrannu i'r achos teilwng hwn.  Rydym wedi casglu dros 70 o focsys – cynnydd ers y llynedd – a mae’n wych gallu eu rhoi i'r gwirfoddolwyr o'r Banc Bwyd heddiw. 

“Efallai y bydd yn eich synnu i ddysgu hyn, ond yn y 12 mis diwethaf, mae Cangen Sir y Fflint UNSAIN wedi dosbarthu nifer o dalebau Banc Bwyd.  Mae hwn yn nodyn atgoffa mai pobl lleol yn ogystal â phobl sydd ar Gredyd Cynhwysol sydd angen y cymorth ychwanegol.”

Roedd Colin Everett, Prif Weithredwr y Cyngor a Sarah yn bresennol i helpu i ddanfon y parseli i Andy Leake o Banc Bwyd Sir y Fflint, mewn pryd i ddosbarthu’r eitemau i deuluoedd ar gyfer y Nadolig.

Dywedodd Andy:

“Hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth – bydd y bwyd hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl yn ein cymunedau lleol.  Nid ydym yn credu y dylai unrhyw un erbyn heddiw orfod llwgu. Dyma’r rheswm, drwy'r flwyddyn ein bod yn darparu bwyd maethlon a chefnogaeth tridiau i bobl lleol sydd yn cael eu hatgyfeirio atom.  Yn y pedair wythnos ddiwethaf, rydym wedi bwydo 1,000 o deuluoedd o ardal Sir y Fflint, a felly rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth gan UNSAIN a Chyngor Sir y Fflint.”

 

Foodbank (2 of 2).jpg

Andy Leake, Sarah Taylor, Colin Everett