Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathlu etifeddiaeth yr economi lleol

Published: 16/01/2020

Ymwelodd cynrychiolwyr o Gyngor Sir y Fflint, ynghyd â’r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Barry Jones, â derbynnydd y Wobr Etifeddiaeth yr Arglwydd Barry Jones 2019.

Mae Steve Morgan yn Rheolwr Gyfarwyddwr Grwp Cwmnïau P&A - busnes teuluol sefydledig sy’n dathlu dros 30 mlynedd, ac mae eu cyfranogiad yn y diwydiant coed yn mynd yn ôl pum cenhedlaeth. Mae ganddo hanes hirsefydlog yn y diwydiant coed, gweithgynhyrchu paledi, pecynnu a phacio cesys ar gyfer ystod eang o ddiwydiannau, yn ogystal â dodrefn pren a ffensys i’r ardd ar gyfer eu gyfanwerthu i ganolfannau gardd yn genedlaethol, o dan yr enw brand Zest 4 Leisure.

Mae’r Wobr Etifeddiaeth – rhan o Wobrau Busnes Sir y Fflint mewn cysylltiad â Systemau Diogelwch AGS – yn cael ei gyflwyno gan yr Arglwydd Barry Jones i rywun a fydd yn gadael etifeddiaeth barhaol o ganlyniad i’w cyfraniad i dwf economaidd yn Sir y Fflint.

Mae Steve yn parhau i dyfu P&A i sefydliad llewyrchus, amlran, sydd wedi ennill nifer o wobrau, ac yn cynnig ystod o wasanaethau i fusnesau a defnyddwyr. Yn ogystal â chynnal lefelau uchel o foddhad ymysg cwsmeriaid y grwp drwyddi draw, mae Steve hefyd yn gweithredu fel cwmni cyfrifol o ran y gymdeithas ehangach a’r amgylchedd. 

Dywedodd Llywydd Sir y Fflint mewn Busnes, yr Arglwydd Jones: 

“Roeddwn yn falch iawn o gyflwyno'r wobr hon i Steve.  Mae’n haeddu derbyn y gydnabyddiaeth hon am y gwaith rhagorol y mae’n ei wneud i gefnogi'r Sir gwych hwn – da iawn yn wir!”

Meddai Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Marion Bateman:

“Dyma gyfle gwych i ymweld â busnes lleol llewyrchus sydd yn cynnig ystod o wasanaethau, ac yn cymryd yr amser i roi yn ôl i’r gymuned leol a chodi arian i elusennau.  Rydym yn ffodus iawn i gael sefydliadau arloesol cystal yn Sir y Fflint, a hoffwn longyfarch Steve Morgan ar y Wobr sy’n llwyr haeddiannol.”

Mae gan P&A bolisi amgylcheddol dim gwastraff gynhwysfawr, ac mae wedi’i ymrwymo i gael cynnyrch coed o goedwigoedd sy’n cael eu rheoli’n gyfrifol.  Mae’r cwmni wedi’i ymrwymo i ailgylchu ac wedi gosod peiriant naddu pren ar gyfer gwastraff coed a phedwar boeler biomas ar y safle yn yr Wyddgrug, yn ogystal â phaneli solar.

Drwy gyfrannu amser ac adnoddau, mae’n rhoi cefnogaeth gyson i nifer o gynlluniau cymunedol ac elusennol gydol y flwyddyn.  Mae Steve yn athletwr brwd ac yn cymryd rhan yn Her Ironman, gan gefnogi’r Gymdeithas Alzheimer's ac elusennau lleol, ac wedi cefnogi datblygu mentrau cymdeithasol drwy gynllun mentora.  

PandA visit January.jpg